google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Reform yn blaenoriaethu Cymry ar gyfer tai cymdeithasol

Reform yw’r ail blaid i gyhoeddi maniffesto ar gyfer etholiad y Senedd – dogfen sy’n nodi’r addewidion y mae plaid yn eu gwneud i bleidleiswyr.

Dan arweiniad Nigel Farage yn y DU, y gred ydy bod Reform yn cystadlu â Phlaid Cymru i fod y brif blaid wedi’r bleidlais ar 7 Mai, yn ôl polau piniwn.

Dywedodd Thomas, a benodwyd gan Farage ym mis Chwefror ac sy’n gyn-arweinydd cyngor yn Llundain: “Gyda’r glasbrint hwn, mae gennym yr holl flociau adeiladu i ddod â chenhedlaeth o ddirywiad i ben yma yng Nghymru.”

Dywedodd Farage, a fydd hefyd yn mynychu’r digwyddiad yng Nghasnewydd ddydd Iau: “Mewn ymgyrch etholiad i’r Senedd sydd wedi’i nodweddu gan economeg ffantasi gan y pleidiau eraill, mae’r ddogfen hon yn gynllun difrifol i gyflawni’r newid gwirioneddol y mae Cymru’n ei haeddu.”

Rhoddodd Reform grynodeb o rai manylion y maniffesto dros nos – gan gynnwys y byddai’n blaenoriaethu “Cymry ar gyfer tai cymdeithasol”.

Pan ofynnwyd iddynt beth oedd hynny’n ei olygu, a phwy fyddai’n cael ei ystyried yn Gymry, dywedodd llefarydd Reform: “Mi fydd yn seiliedig ar breswylfa hirdymor”.

Dywedodd y blaid y byddai’n cael gwared ar gymorth rhyngwladol ac yn lle hynny’n “gwario arian trethdalwyr yng Nghymru”.

Fel arfer, Llywodraeth y DU sy’n gyfrifol am gymorth rhyngwladol, er bod £1m wedi’i glustnodi ar gyfer “datblygu cynaliadwy rhyngwladol” yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026/27.


BBC News

Advertisements

See also  Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2029 i'w chynnal yng Ngheredigion

Check Also

Adran Premier: TNS score late winner to end Wrexham’s 100% record

Sunday, 4 October Wrexham 2-3 The New Saints The New Saints ended Wrexham’s perfect start …

WRC: Elfyn Evans is world champion after late Oliver Solberg crash

1. Elfyn Evans (Great Britain), Toyota, 243 points 2. Oliver Solberg (Sweden), Toyota, 238 3. …

Elfyn Evans yn ennill Pencampwriaeth Ralïo y Byd am y tro cyntaf

Roedd disgwyl i’r rali olaf ddigwydd yn Saudi Arabia ym mis Tachwedd, ond cafodd ei …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime