google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pump peth difyr o Etholiad Vaughan a Richard

Mae Prif Weinidog Cymru a Phrif Weinidog y DU wedi bod o dan bwysau yn ddiweddar.

Ac nid dyna’r unig beth sydd ganddyn nhw yn gyffredin yn ôl un theori a drafodwyd yn y podlediad.

“Oes yna debygrwydd efallai rhwng Vaughan Gething a Rishi Sunak?” gofynnodd Vaughan Roderick.

“Hynny ydi bod nhw’n wleidyddion sydd â meddwl mawr iawn ohonyn nhw ei hun ac sydd wedi amgylchynu eu hunain efo pobl sydd ddim yn eu herio nhw ac sydd ddim yn cwestiynu nhw ac oherwydd hynny mae’r ddau ohonyn nhw yn gwneud camgymeriadau?”

“Mae hwnna’n gymhariaeth dda iawn – mae lot yn hynny,” meddai’r Athro Richard Wyn Jones.

“Dydi nhw ddim efo’r sgiliau meddal yna a synnwyr greddfol yna bron sydd efo gwleidyddion yn y rheng uchaf ynglŷn â sut mae pobl yn eu canfod nhw a chanfod yr hyn maen nhw’n ddweud.

“Gwleidyddiaeth by numbers ydi o – rhyw glyfrwch ‘dwi am ddeud hynny, dwi ddim am cweit ddeud hynna’…

“Mae’n dod drosodd yn haerllug a’r ffordd mae’r gymhariaeth yn gweithio ymhellach, erbyn rŵan mae’r ddau yn gwneud niwed i’w pleidiau eu hunain.”


Source link

Advertisements

See also  Flintshire medical cannabis users protected by council

Check Also

Cynghrair y Cenhedloedd: Cymru 0-1 Denmarc

Roedd angen ymateb chwim gan Ethan Ampadu reit ar ddechrau’r ail hanner i atal rhediad …

Cardiff woman says damp flat is ‘rotten’ after building fire

Photographs appear to show mould in the kitchen and bedrooms. Ban said: “This is my …

Elite League: Cardiff Devils 2-1 Glasgow Clan

Cardiff Devils completed a successful opening weekend of the Elite League season with a narrow …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime