google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pum munud gyda Bardd y Mis: Non Lewis

Non LewisFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd

Dechreuodd Non Lewis farddoni a chynganeddu yn ystod y cyfnod clo – ac mae hi bellach yn dysgu’r grefft i bobl ifanc.

Yn wreiddiol o Glydach, Abertawe, mae hi nawr yn byw ger Llanelli, ac yn bennaeth adran Gymraeg yn Ysgol Gyfun Gŵyr, Abertawe.

A drwy gydol mis Hydref, hi ydi Bardd y Mis ar BBC Radio Cymru.

Pryd dechreuoch chi farddoni?

Yn ystod y cyfnod clo. Roeddwn i wedi cael tro ar ambell dasg ysgrifennu limrig, ond heb fentro mwy na hynny. Roedd gen i awydd ers bod yn y chweched i roi tro ar feistroli’r gynghanedd yn arbennig.

Pan ddaeth cyfle drwy Ysgol Farddol Caerfyrddin bum yn ddigon ffodus i gael lle ar y cwrs cyntaf hwnnw yn haf 2020. Dyna lle ddales i’r bug!

O fewn chwe wythnos o ddechrau, roeddwn wedi llwyddo llunio englyn. Roedd ein tiwtor Geraint Roberts wedi rhoi arweiniad ardderchog i ni, ac ar ôl y cwrs cychwynnol, doeddwn i ddim eisiau rhoi’r gorau iddi!

Lle fyddwch chi’n cael eich syniadau am gerddi a gwaith creadigol?

Yn aml bydd testun yn cael ei osod mewn gwersi neu destun ar gyfer cystadleuaeth neu dalwrn.

Bydda i’n treulio ychydig amser yn darllen am y testun neu’n sgwrsio â chyfeillion amdano, yn arbennig os yw yn y newyddion, yna dechrau rhestru geiriau ac ymadroddion sy’n dweud rhywbeth arbennig.

Bydd hi’n cymryd tipyn o bendroni i roi pethau at ei gilydd.

Petaech yn gallu bod yn fardd arall am ddiwrnod – byw neu hanesyddol – pwy fydden nhw a pham?

Tudur Dylan Jones
Disgrifiad o’r llun,

Sut beth fyddai bod yn Tudur Dylan Jones am ddiwrnod?

Am gwestiwn da! Mae’n rhaid i mi ddweud Tudur Dylan Jones. Fe oedd fy mentor ar gynllun Pencerdd, ac mae ei afael e ar y gynghanedd wrth farddoni yn anhygoel.

Mae’n gwneud i’r grefft deimlo’n rhwydd, a dyna un o rinweddau athro da.

Pan fyddwch chi ddim yn ysgrifennu, be fyddwch chi’n hoffi’i wneud i ymlacio?

Nofio yn y morFfynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Dw i’n mwynhau cadw’n heini a nofio yn y môr drwy gydol y flwyddyn. Bydda i’n mynd i redeg ar lwybr yr arfordir yma yn Llanelli i roi trefn ar fy meddyliau yn aml. Dw i’n mwynhau canu ac yn aelod o gôr Llanddarog.

Dw i wedi dechrau tyfu llysiau eleni, ac er na fyddaf yn derbyn gwahoddiad i sioe Chelsea, mae cael blasu a bwyta stwff o dy ardd dy hun yn fuddugoliaeth!

Dw i’n mwynhau treulio amser gyda fy nheulu a ffrindiau annwyl yn fawr iawn hefyd.

Côr Llanddarog.  Ffynhonnell y llun, Llun cyfrannydd
Disgrifiad o’r llun,

Non yn canu gyda Chôr Llanddarog

Rydych chi ar fin dechrau dysgu’r grefft o gynganeddu i bobl ifanc yn yr ysgol – sut mae ennyn eu diddordeb?

Pan oeddwn i’n ifanc, roedd y grefft yn teimlo tu hwnt i mi, yn rhywbeth i’r ysgolheigion yn unig. Ond dw i wedi dod i sylweddoli bod modd dysgu’r grefft un reol ar ôl y llall.

Mae gen i dipyn mwy o bethau i’w dysgu, ond dw i’n gobeithio y gallaf roi fy nisgyblion ar ben ffordd a gweld be’ ddaw!

Rydw i’n teimlo’n ddyledus iawn i’r Ysgol Farddol am ddysgu’r grefft i mi, ac yn teimlo pe bai’r gynghanedd yn gafael yn y bobl ifanc, yna rhaid bwrw ati i rannu’r grefft gyda nhw hefyd.

Mae e’n rhan werthfawr o’n diwylliant cyfoethog ni, ac mae’n bwysig bod ein pobl ifanc yn cael cyfle i’w meistroli.

Wnaethoch chi ennill cadair Eisteddfod Gadeiriol Caerdydd yn 2023 gyda rap. Ydych chi’n gwrando ar – neu’n perfformio – rap?

Dim yn arbennig. Ymateb i destun yr Eisteddfod nes i, a gan fy mod yn mwynhau cerddoriaeth, roedd defnyddio rhythm cynghanedd i lunio rap yn hwyl.

Roedd fy mab wedi llunio trac gwreiddiol i mi yn arbennig ar gyfer y gerdd, a chawson ni lot o sbort yn recordio cyn danfon y gwaith i’r Eisteddfod.

Dydw i ddim yn meddwl fydda i’n rapio eto… roedd un rap yn ddigon dw i’n meddwl!

Beth sydd ar y gweill gennych ar hyn o bryd?

Mae ffrind annwyl yn priodi ddiwedd y mis, felly rydw i eisiau ysgrifennu englyn i’w gyfarch e a’i ŵr newydd.

See also  Ryder Cup 2025: What was the 'Miracle at Medinah'?

Bydda i’n gwirio gwefan steddfota.cymru i weld testunau eisteddfodau bach lleol er mwyn ymarfer y grefft, ac wrth gwrs bydd digon o waith cartref gan Ysgol Farddol a thîm talwrn Tanau Tawe yn cyrraedd dros fisoedd y gaeaf.

Tim Talwrn Tanau TaweFfynhonnell y llun, Llun cyfrannwr
Disgrifiad o’r llun,

Non gyda gweddill aelodau tîm Talwrn Tanau Tawe, a’r meuryn Ceri Wyn Jones, yn rownd gyntaf Talwrn Radio Cymru 2025

Advertisements

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Views: 0

See also  Eluned Morgan yet to enter Wales' first minister race but support grows

Check Also

Dyn 18 oed wedi marw ar ôl damwain ffordd yng Nghaerdydd

Mae dyn 18 oed o Drelái, Caerdydd wedi marw ar ôl gwrthdrawiad ar yr A48 …

Dirwy o £500k i gwmni kebab am werthu cig oen oedd yn bennaf yn groen a braster

Dywedodd Reynolds fod anfonebau’n dangos mai ychydig iawn o gig oen oedd yn cael ei …

Hans Obma: Fy nhaith Gymraeg i Gwmderi

“Trwy’r flwyddyn, nes i ddosbarth ar-lein yn y bore. O’n i yn yr Unol Daleithiau …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Link. You have been rate limited for making too many requests in a short time frame. Artificial intelligence hedge fund winthorpe valentine & company.