google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 28 2026

Ysgol Dyffryn Aman: Arestio bachgen 14 oed ar amheuaeth o fygwth lladd

Mae bachgen 14 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fygwth lladd yn dilyn adroddiadau am negeseuon a anfonwyd dros y cyfryngau cymdeithasol.

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod wedi gweithredu i ddiogelu disgyblion yn Ysgol Dyffryn Aman, Rhydaman ar ôl derbyn adroddiad o’r negeseuon bygythiol dydd Gwener.

Ychwanegodd y llu bod y bachgen wedi cael ei arestio nos Wener a bod ymholiadau yn parhau.

Dywedodd y Prif Arolygydd Mike Llewellyn: “Hoffwn sicrhau rhieni, a’r gymuned ehangach, fod camau gweithredu cyflym wedi’u cymryd i ddiogelu disgyblion ac i ddod o hyd i’r unigolyn sydd dan amheuaeth cyn gynted ag y derbyniwyd yr adroddiad hwn.

“Efallai y byddwch yn sylwi ar bresenoldeb heddlu uwch na’r arfer yn yr ardal dros y dyddiau nesaf – bydd y rhain yno i roi mwy o sicrwydd i’r rhai sy’n byw ac yn mynychu’r ysgol yn yr ardal.”


BBC News

Advertisements

See also  'This river's changed direction - it's crazy'

Check Also

Police failings in friends’ death on Yr Wyddfa could risk lives, coroner warns

More people could die on remote mountains unless police do a better job in responding …

Gweithiwr oedd yn gamblo ar-lein wedi camddefnyddio £7,000 o arian cyngor

Clywodd y llys fod terfyn credyd cerdyn Deakin ond yn £1, gan bod ei gwaith …

Gianni Infantino: FAW chief Noel Mooney renews call for Fifa president to step down

Infantino faced calls to stand down over the controversial plan – known as the Fifa …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime