google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pryderon am gwmnïau sy’n adeiladu canolfan ganser newydd Felindre

Mewn cyfweliad gyda rhaglen Politics Wales BBC Cymru, dywedodd Adam Price, sy’n aelod o’r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus: “Ry’n ni wedi bennu lan mewn sefyllfa nawr ble ry’n ni ar hyn o bryd yn gwneud busnes gyda chwmnïau – a dweud y gwir, fel mae pethe’n sefyll ar hyn o bryd – na ddylai fod yn ein sector gyhoeddus ni.”

Mae Mr Price o’r farn y dylai’r cytundeb gael ei dynnu oddi ar y cwmnïau os ydy eu hapeliadau’n aflwyddiannus “er mwyn gwarchod ein henw da a hefyd er mwyn hala neges glir i fusnesau ar draws y byd”.

Yn ei dystiolaeth yntau i’r pwyllgor, dywedodd prif weithredwr dros dro yr ymddiriedolaeth, Carl James: “Rydyn ni’n gweithio i’r gwasanaeth iechyd felly mae’n henw da ni’n hollbwysig a fydden ni byth yn rhoi hynny yn y fantol.

“Beth rydyn ni wedi ceisio ei wneud drwy gydol y broses ydy gweithio gyda phobl hynod brofiadol.

“Beth fyddwn ni bob tro’n ei wneud fel corff cyhoeddus ydy dilyn y rheolau i’r llythyren.”

Fe wnaeth Kajima a Sacyr gyfeirio’r BBC at sylwadau Ymddiriedolaeth Felindre.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod wedi cael sicrwydd bod Felindre “wedi dilyn y gyfraith drwy gydol y broses gaffael”.

Mwy ar y stori hon ar Politics Wales, BBC One Wales am 10:00 ddydd Sul.


Source link

Views: 0

See also  Talu am bigiadau colli pwysau yn breifat yn sgil rhestrau aros hir

Check Also

Ymgeisydd Reform a gamodd yn ôl dros lun saliwt i gynghori’r arweinydd

Ar ôl i’r llun ddod i’r amlwg yn ystod ymgyrch yr etholiad, dywedodd Reform eu …

Beach-goers enjoy record May heat in New Quay, Wales

A seaside town was packed with visitors over the bank holiday weekend as people made …

Heledd Wynn Newton yw prif gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd

Heledd Wynn Newton o Gaerdydd sydd wedi ennill medal prif gyfansoddwr Eisteddfod yr Urdd Ynys …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.