google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pryder am ddyfodol nifer o eglwysi gwledig yng Ngheredigion

Dywedodd yr Archddiacon Eileen Davies fod “dim penderfyniad eto ac ry’n ni’n agored i syniadau newydd… ond yn aml dyw hi ddim yn ymarferol i gadw nifer o’r eglwysi bach ‘ma ar agor”.

“Os yw coeden yn pydru a bod ‘na ddim ffrwyth, neges yr Iesu fyddai ei llosgi hi a chwilio am dyfiant newydd yn rhywle arall.

“Fi’n ofni bod lot o bobl yn addoli adeiladau yn lle’r Arglwydd Iesu.

“Rhaid bod yn ymarferol. Mae un offeiriad yn yr ardal â 22 o eglwysi – ac yn rheiny dim ond dau neu dri sy’n dod ar y Sul a hynny ers 20 mlynedd.

“Mae rhannau o rai eglwysi yn cwympo a dyw’r strwythur trydan ddim yn ddiogel.

“Fi’n teimlo weithiau bod yn rhaid deffro pobl. Os oes dyfodol i’r eglwysi ‘ma mi ‘nawn ni gydweithredu.

“Yn ddiweddar roedd ‘na un eglwys o dan fygythiad ond nawr mae’r nifer sy’n mynd iddi wedi cynyddu’n ddirfawr ac mae hynny’n newyddion calonogol.”

Bydd mwy am y stori yma yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg ar Radio Cymru am 12:30 ddydd Sul ac yna ar BBC Sounds.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  Teyrngedau i'r cerddor a'r gyfansoddwraig Gwenda Williams o Ruthun

Check Also

League Two: Christian Fuchs steps down as manager of Newport County

The Exiles return for pre-season training on Monday but it will not be Fuchs putting …

Cais i George North yn ei gêm olaf a Chymru’n curo’r Barbariaid

Profodd Cymru fuddugoliaeth yn erbyn y Barbariaid ddydd Sadwrn, gyda George North yn hawlio cais …

Gavin & Stacey role a ‘wow moment’ in Rakie Ayola’s career

Playing a small role in the finale of BBC comedy Gavin & Stacey has been …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
heavy equipment transport marion or. power only georgia. heavy equipment transport cuyahoga oh.