google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Casi Wyn: Barddoniaeth, Cerddoriaeth a Codi Pais

Yn ogystal â pherfformio mae barddoniaeth yn elfen bwysig iawn o fywyd Casi.

Roedd hi’n Fardd Plant Cymru rhwng 2021 nes 2023 ac mae wedi cyhoeddi cyfrol o gerddi o’r enw Cariad Yw.

Mae Casi’n sôn am ei dylanwadau barddonol a’r defnydd o farddoniaeth yn ei chaneuon.

Cafodd trip ysgol i Hen Dŷ’r Ysgol yn Rhyd Ddu, cartref T H Parry Williams dipyn o effaith arni yn ieuengach.

“Dwi’n cofio Mam yn gwneud i fi ddarllen ychydig o weithiau TH cyn mynd, fel mod i’n dallt lle o’n i’n mynd.

“Dwi’n cofio darllen llinellau olaf, dwi’n credu mai cerdd o’r enw Tŷ’r Ysgol:

Onid rhag ofn i’r ddau sydd yn y gro

Synhwyro rywsut fod y drws ynghlo.

Dwi’n cofio darllen y rheina a thrafod nhw efo Mam i wybod beth oedden nhw yn ei olygu. Dwi’n cofio hwnna fel rhyw drobwynt.

“Mae ‘na rywbeth am y ffordd mae geiriau’n gallu awgrymu pethau, a’r dirgelwch sy’n gallu bodoli mewn barddoniaeth,” meddai.

Roedd Casi’n canmol ei hathrawon Cymraeg hefyd yn Ysgol Uwchradd Tryfan, Bangor ble gafodd hi gyfle i astudio gwaith Iwan Llwyd a Waldo Williams.

“Mae cymaint o deimlad y tu ôl i farddoniaeth, a’r teimlad wedyn oedd yn dy daro di o’u darllen nhw, neu glywed nhw, roedden nhw yn aros hefo fi ar ôl y gwersi.

“Mae ‘na ddimensiwn i’r gweithiau [barddol] yna sy’n rhoi awch i ti a chwilfrydedd. Rhywbeth gwerth ei brofi, rhywbeth ysbrydoledig iawn,” meddai.

I glywed y sgwrs rhwng Manon a Casi yn llawn cliciwch yma.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  Cofio'r cwis Cymraeg? - BBC Cymru Fyw

Check Also

League Two: Christian Fuchs steps down as manager of Newport County

The Exiles return for pre-season training on Monday but it will not be Fuchs putting …

Cais i George North yn ei gêm olaf a Chymru’n curo’r Barbariaid

Profodd Cymru fuddugoliaeth yn erbyn y Barbariaid ddydd Sadwrn, gyda George North yn hawlio cais …

Gavin & Stacey role a ‘wow moment’ in Rakie Ayola’s career

Playing a small role in the finale of BBC comedy Gavin & Stacey has been …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Heavy equipment transport marion or. power only georgia. Fishing boat transport.