google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Teyrngedau i’r cerddor a’r gyfansoddwraig Gwenda Williams o Ruthun

Roedd Gwenda Williams hefyd yn gyfeilydd i Driawd Menlli a fuodd yn diddanu cynulleidfaoedd ar hyd a lled Cymru gan ymddangos hefyd ar raglen Noson Lawen. Hi hefyd oedd yn cyfansoddi’r caneuon.

“Mae rhywun yn cofio’n fwyaf arbennig am y gân ‘Ffrindiau’ o waith Gwenda a geiriau Dewi Bowen sy’n parhau yn un o ffefrynnau rhaglen Ar eich Cais ar nos Sul ar Radio Cymru,” ychwanegodd Trystan Lewis.

“Ddaru hi gyhoeddi cyfrol o’i chaneuon, Taro’r Nodyn yn ogystal.

“Ges i’r fraint o arwain Cymanfa Ganu ym Mhwll-glas yn 2005 o donau Gwenda, y gymuned yn dod ynghyd i dalu teyrnged i un ddaru weithio mor galed yn ei bro.

“Roedd ‘ne rhywbeth mor arbennig yn ei thonau hi, maent mor ganadwy, harmonïau cadarn ar gyfer canu cyhyrog pedwar llais, gyda phriodas hyfryd â’r geiriau.

“Mae ei charol, Iona, ar eiriau y diweddar Barchedig O R Parry yn drysor.”


BBC News

Advertisements

See also  Agor a gohirio cwest yn achos marwolaeth yr AS Hefin David

Check Also

Prem Rugby closes the door for now on potential Anglo-Welsh league despite WRU interest

Wales have four professional sides, Ospreys, Cardiff, Scarlets and Dragons, that currently play in the …

Babydoll singer Jamie Miller says his ‘dreams have come true’

Jamie Miller says “nothing feels normal” anymore but he is trying to “live in the …

Artist Cymreig yn rhif un siartiau senglau y DU am y tro cyntaf ers 15 mlynedd

Yn wreiddiol o Bontprennau, yng Nghaerdydd, fe ymddangosodd Jamie Miller ar raglen The Voice yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime