google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Profion DNA i adnabod cŵn wedi ymosodiadau ar dda byw yn ‘anfon neges’

Mae ffermwr o ogledd Cymru wedi croesawu’r defnydd o brofion DNA i helpu’r heddlu ymchwilio i ymosodiadau gan gŵn ar stoc.

Ym mis Mawrth daeth newidiadau i’r gyfraith sy’n golygu bod hawl gan yr heddlu i gymryd samplau DNA gan gŵn sydd o dan amheuaeth o ymosod ar anifeiliaid.

O dan y ddeddf newydd, gall swyddogion roi dirwyon di-derfyn i berchnogion cŵn sy’n ymosod ar anifeiliaid, cynnal profion DNA, a chadw cŵn am gyfnod amhenodol.

Y gobaith yw y bydd yn helpu i adnabod y cŵn sy’n gyfrifol, a dwyn mwy o berchnogion y cŵn hynny gerbron y llysoedd.

Yn ôl Daniel Jones, sy’n ffermio ar y Gogarth ger Llandudno, mae ymosodiadau gan gŵn yn broblem barhaus ac yn “torri calon” ffermwyr.

“‘Da ni wedi cael dipyn o gŵn yn ymosod ar y defaid ac i ddweud y gwir mae’n broblem enfawr yma,” meddai.

“Mae o’n effeithio’r system ffermio o ddydd i ddydd.

“Mae’r defaid yn gorfod mynd drwy lot hefo cael eu hymosod gan gŵn, ond hefyd mae’n cael effaith ofnadwy ar y ffermwyr.

“‘Da ni’n trio edrych ar ôl y defaid y gorau medran ni, ond pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd mae o’n torri calon rhywun i ddweud y gwir.”


BBC News

Advertisements

See also  Poverty: Food bank user worried about Christmas cost of living

Check Also

Ballet Cymru marks 40 years of dance in Newport

After some initial backing from the Arts Council of Wales, he said Ballet Cymru went …

Wrexham news: Red Dragons need honest self-assessment – Parkinson

Parkinson has overseen immense success since being named as Wrexham boss in the summer of …

Cymru Premier: Airbus make it four straight wins against Caernarfon

Winless Holywell’s struggles continued as Flint’s resurgence continued with a five-goal thumping on Friday night. …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime