google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Prifathrawon i gael eu ‘hannog yn gryf’ i gyfyngu defnydd plant o ffonau

Mae rhai ysgolion yn gofyn i ddisgyblion gloi eu ffonau mewn cwdyn ar ddechrau’r dydd.

Yn Lloegr, mae disgwyl i ysgolion atal disgyblion rhag defnyddio ffonau, gan gynnwys yn ystod gwersi, oni bai am mewn amgylchiadau eithriadol. Mae Llywodraeth y DU wedi addo gwaharddiad cyfreithiol ar ffonau yn ysgolion Lloegr.

Ychwanegodd Brychan: “Dwi’n ymwybodol y bydd angen gallu gwneud eithriadau bob amser yn achos rhai plant, am resymau meddygol er enghraifft.

“Drwy ymgynghori ar y canllawiau ar ddechrau’r flwyddyn ysgol, dwi’n rhoi’r eglurder i ysgolion y maen nhw ei eisiau yn gyflym, ac yn creu amgylchedd dysgu mwy diogel drwy gyfyngu nawr ar yr elfennau sy’n tynnu sylw’r dysgwyr.”

Roedd disgwyl iddi amlinellu ei blaenoriaethau mewn datganiad i’r Senedd ddydd Mawrth.

Daw hyn ddiwrnod ar ôl i Lywodraeth y DU gyhoeddi gwaharddiad ar gyfryngau cymdeithasol i blant dan 16 oed.

Yn etholiad y Senedd, addawodd Plaid Cymru gyfyngiadau ar ddefnyddio ffonau symudol yn eu maniffesto.

Dywedodd y Ceidwadwyr Cymreig fod yr arolwg gweithlu yn dangos “cefnogaeth glir i weithredu cenedlaethol cryfach”.

Dywedodd llefarydd addysg y Ceidwadwyr, Sam Rowlands, bod y blaid “eisiau ffonau symudol allan o ystafelloedd dosbarth, fel y gall disgyblion ganolbwyntio a gall safonau wella ledled Cymru”.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 2

See also  Minister Mick Antoniw sorry for 'offensive' tweet about Tories

Check Also

Farmers' food price fears and son of football legend tragedy

A review of the front page stories from the daily and weekly newspapers in Wales. …

Swansea City transfer news: Swans close in on Scotland striker Ross Stewart

Stewart missed a hefty chunk of the 2025-26 season due to a hamstring injury but …

Elis Jame says global fame of The Cymru Connection is ‘bonkers’

A festival in Wales may seem like the perfect location for me and Elis James …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime