google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dau yn y ras i fod yr Archdderwydd nesaf

Petai’r Prifardd Tudur Dylan yn cael ei ethol, byddai’n dilyn ôl troed ei dad – y Parchedig John Gwilym Jones a fu’n Archdderwydd rhwng 1993 a 1996 – a’i ewythr y Parchedig T James Jones a fu’n Archdderwydd rhwng 2009 a 2013.

Mae Tudur Dylan wedi ennill y Gadair ddwywaith – yn Eisteddfod Bro Colwyn yn 1995 pan oedd ei dad yn Archdderwydd, ac yn Eisteddfod Eryri a’r Cyffiniau yn 2005.

Yn 2007 enillodd y Goron yn Eisteddfod Sir y Fflint.

Enillodd Gerwyn Wiliams y Goron yn Eisteddfod Genedlaethol Nedd a’r cyffiniau yn 1994.

Wedi graddio ym Mhrifysgol Aberystwyth, bu’n bennaeth Adran y Gymraeg ym Mhrifysgol Bangor ac mae bellach yn un o olygyddion Gwasg y Bwthyn.

Seremoni’r Cadeirio brynhawn Gwener yn Eisteddfod y Garreg Las fydd seremoni olaf yr Archdderwydd presennol, Mererid Hopwood.

Bydd yr Archdderwydd newydd yn cael ei gyflwyno i gynulleidfa’r Pafiliwn ar ddechrau seremoni’r Cadeirio.

Ni fydd yr Archdderwydd Mererid yn trosglwyddo’r awenau yn swyddogol tan ddechrau Seremoni Cyhoeddi Eisteddfod Genedlaethol 2028, a fydd yn digwydd yn haf 2027.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 2

See also  Canlyniadau Dydd Sadwrn 10 Awst // Results for Saturday 10 August

Check Also

Swansea City transfer news: Swans close in on Scotland striker Ross Stewart

Stewart missed a hefty chunk of the 2025-26 season due to a hamstring injury but …

Elis Jame says global fame of The Cymru Connection is ‘bonkers’

A festival in Wales may seem like the perfect location for me and Elis James …

One Day Cup: Abbott blast earns Hampshire win over Glamorgan

Hampshire recalled Eddie Jack and Lumsden, both unused in the Hundred franchise tournament, while Glamorgan …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
– 2 x elfbar elfa refillable.