google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Dros £80m heb ei hawlio mewn cronfeydd i bobl ifanc yng Nghymru

Dywedodd Kae Tapscott nad oedd ganddo unrhyw syniad fod £4,000 mewn cyfrif yn ei enw tan i weithiwr cymdeithasol roi gwybod iddo.

Doedd Kae, o Flaenau Gwent, erioed wedi clywed am y cynllun Cronfa Ymddiriedolaeth Plant, ac mae’n annog eraill i wneud eu hymchwil eu hunain.

“Peidiwch â’i adael a gwneud dim achos mae’n bosib na wnewch chi dderbyn unrhyw beth heb drio,” meddai.

Eglurodd ei fod wedi cael trafferth cael gafael ar fanylion y CTF ar y dechrau a’i fod wedi defnyddio system y Share Foundation, dolen allanol i ddod o hyd i’r wybodaeth.

“Ro’n i’n meddwl y byddwn i’n derbyn y wybodaeth yn awtomatig, ond glywes i ddim byd.

“Byddech chi’n meddwl y byddai’r llywodraeth yn rhoi o i fi, ond roedd rhaid i fi ei hawlio fy hun.”

Yn ôl Gavin Oldham, cadeirydd y Share Foundation, y prif reswm bod cyfrifon yn parhau heb eu hawlio yw anwybodaeth.

Mae eisiau gweld system ble mae’r arian yn cael ei ryddhau yn awtomatig mewn achosion ble cafodd cyfrifon eu creu ar ran pobl ifanc gan y llywodraeth – gan mai nhw yw’r grŵp sydd fwyaf tebygol o golli allan.

Mae Llywodraeth y DU wedi cael cais am ymateb.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  Barry Island home of Doris in Gavin and Stacey bought by fans

Check Also

Elis Jame says global fame of The Cymru Connection is ‘bonkers’

A festival in Wales may seem like the perfect location for me and Elis James …

One Day Cup: Abbott blast earns Hampshire win over Glamorgan

Hampshire recalled Eddie Jack and Lumsden, both unused in the Hundred franchise tournament, while Glamorgan …

Gwaelod-y-Garth flood caused by planned quarry blast

A planned quarry blast caused a “substantial volume” of water from old iron mine workings …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Elfbar elfa kit. elfbar elfa basic units (battery carrier).