google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Powys: Arestio bachgen 17 oed wedi cyfnod clo yn Ysgol Maesydderwen

Advertisements

Mae bachgen 17 oed wedi cael ei arestio ar amheuaeth o anfon cyfathrebiadau digidol yn cyfleu bygythiadau o farwolaeth neu niwed difrifol gyda’r bwriad o achosi ofn.

Bu’n rhaid i Ysgol Maesydderwen yn Ystradgynlais gau ar ôl gorfod mynd i gyfnod clo ddydd Llun yn dilyn adroddiad o fygythiad dros y ffôn.

Dywedodd y llu ddydd Llun fod yr ysgol wedi mynd i gyfnod clo er mwyn blaenoriaethu diogelwch pawb.

Cadarnhaodd y llu nad oedd adroddiadau o unrhyw un wedi eu hanafu yn yr ysgol, a bod yr holl ddisgyblion a staff wedi cael eu cadw ar y safle yn ddiogel wedi’r digwyddiad.

Arhosodd yr ysgol ar gau ddydd Mawrth yn dilyn datblygiad yn ymchwiliad yr heddlu.

Yn dilyn yr ymchwiliad i’r bygythiadau a wnaed mewn perthynas ag Ysgol Maesydderwen daeth cadarnhad ddydd Gwener gan yr heddlu bod dyn ifanc o Bontardawe wedi’i arestio.

Mae’n parhau yn y ddalfa.


BBC News

Views: 2

See also  Hotel's request to silence Machynlleth clock at night rejected

Check Also

Who was pardoned killer Ruth Ellis from Denbighshire?

At the time of Ellis’ execution, the British public was already questioning whether capital punishment …

Ruth Ellis o’r Rhyl yn cael pardwn 70 mlynedd ar ôl ei dienyddio

Mae Ruth Ellis, y fenyw olaf i gael ei chrogi yn y Deyrnas Unedig, wedi …

Wrexham must ‘hold their nerve’ in transfer window – Phil Parkinson

Wrexham manager Phil Parkinson has urged patience during what he describes as a “slow” summer …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
🧘‍♂️ 12th international day of yoga 2026 : join the free 14 day online journey & break a guinness world record !.