google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pont y Borth i ailagor yn rhannol yn ystod oriau’r dydd

Mae disgwyl i Bont y Borth ailagor yn rhannol i geir, beicwyr modur, beicwyr a cherddwyr yn ystod y dyddiau nesaf.

Rhwng 07:00 a 19:00 dim ond cerbydau hyd at dair tunnell fydd yn gallu croesi, ac fe fydd y bont ar gau dros nos.

Ddydd Mawrth dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn cydweithio gyda chwmni UK Highways A55 DBFO Ltd i sicrhau bod modd ailagor y bont yn fuan.

Bydd mesurau rheoli traffig mewn grym – un llif traffig fydd oddi ar yr ynys yn y bore ac un llif fydd i mewn i’r ynys yn y prynhawn.

Bydd disgwyl i feicwyr ddod oddi ar eu beiciau wrth groesi’r bont a defnyddio’r droedffordd i gerddwyr.

Bydd trefniadau mynediad brys hefyd ar gyfer ambiwlansys nad ydynt yn gallu croesi Pont Britannia.


BBC News

Advertisements

See also  Stranded dolphin found dead in the Humber Estuary

Check Also

Rhun ap Iorwerth yn galw am ‘fargen newydd’ i Gymru gyda Llywodraeth y DU

Mewn cyfweliad â BBC Radio Wales Breakfast, awgrymodd Rhun ap Iorwerth y gallai Llywodraeth Cymru …

Cyngor yn argymell cau dwy ysgol wledig er gwaethaf gwrthwynebiad

Pan gafodd y cynlluniau i gau eu cyhoeddi gyntaf, roedd rhieni ym Metws-y -coed yn …

Motörhead guitarist Phil Campbell died from multi-organ failure, inquest hears

Motörhead guitarist Phil Campbell died from multi-organ failure after suffering complications following “necessary” surgeries, an …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime