google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Poeni am ddiogelwch yn rhan o swydd’ DJs benywaidd

Advertisements

Wedi gweithio yn Llundain, Bryste a chlybiau ledled Cymru, mae Esyllt Williams yn DJ profiadol.

Ond yn ystod ei gyrfa 20 mlynedd dywed ei bod wedi profi ochr dywyll y maes, yn enwedig fel DJ benywaidd.

“Ma’n bendant yn anoddach i fenywod gan fod ‘na lot o ragfarn yn erbyn chi a ma’ pobl yn trin chi yn wahanol.

“Mae’n anoddach cael gigs ac mae e hefyd yn anoddach cael mewn i bethau.”

Yn ôl Esyllt, mae bod yn DJ benywaidd yn golygu bod pobl yn aml yn ei chwestiynu a’i thrin hi’n wahanol.

“Mae ‘na lot o bobl yn gofyn os taw fi yw’r DJ hyd yn oed os ydw i’n gwisgo’r headphones a fi yw’r unig berson sy yna.

“Ma pobl yn meddwl bod gyda nhw’r hawl i siarad am be chi’n gwneud, pobl yn trio dod mewn i’r booth, cyffwrdd pethau, cyffwrdd yr offer, cyffwrdd chi.

“Mae pobl hefyd yn gwneud i mi deimlo yn eithaf anniogel weithiau, sefyll rhy agos, twtchad bach gormod,” ychwanegodd.


BBC News

Views: 1

See also  Bradford house fire murder accused died of heart attack, inquest finds

Check Also

Ched Evans: Fleetwood Town striker signs new one-year deal

Fleetwood striker Ched Evans has signed a new one-year deal. The 37-year-old rejoined the Cod …

Glain Llwyd yn ennill Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd

Gofynion y gystadleuaeth oedd cyfansoddi drama neu fonolog addas i gael ei llwyfannu mewn gofod …

Woman dies at popular beach on bank holiday weekend

The 72-year-old was pulled from the water at West Angle Bay beach on Sunday, police …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Making digital tools accessible for everyone.