google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

PMDD: ‘Dwi eisiau plant ond dwi’n ofni peidio cymryd y bilsen’

4a7a83f0 37ca 11f0 8519 3b5a01ebe413.jpg

Yn ôl Dr Roberts, mae PMDD yn gallu bod yn anodd i’w adnabod ac yn aml mae pobl yn cael diagnosis o iselder.

Mae hi’n awgrymu i fenywod sy’n meddwl bod ganddyn nhw PMDD i gadw dyddiadur o’u symptomau er mwyn gweld a oes yna batrwm.

Yn anffodus does dim ateb syml i fenywod sydd â PMDD ac sydd eisiau plant.

“Mae’n gallu bod yn hynod o anodd i ferched sydd eisiau plant yn enwedig pan maen nhw’n gwybod y gall peidio defnyddio dulliau atal cenhedlu waethygu eu symptomau PMDD,” meddai Dr Roberts.

“Os yw rhywun yn dioddef o symptomau difrifol, mae’n fater o bwyso a mesur a ddylid peidio cymryd y meddyginiaethau.”

Mae Llywodraeth Cymru yn dweud bod y Cynllun Iechyd i Fenywod “yn amlinellu pa mor benderfynol ydyn ni o wella diagnosis, triniaeth ac ymwybyddiaeth o gyflyrau sy’n effeithio menywod”.

“Mae PMDD yn cael ei gynnwys fel rhan o’r adran cyflyrau mislif yn y cynllun yma,” medd llefarydd.

“Bydd £3m yn cael ei wario ar y cynllun.”

Os yw cynnwys yr erthygl yma wedi cael effaith arnoch chi, mae gwybodaeth a chefnogaeth ar gael ar wefan Action Line y BBC.


BBC News

Advertisements

See also  County Championship: Kiran Carlson leads Glamorgan to win over Kent

Check Also

Welsh government does not want new national park in north Wales

Plans for a new national park in north Wales are likely to be shelved after …

Dim ymchwiliad cyhoeddus i Barc Cenedlaethol Glyndŵr am y tro

Ni fydd y llywodraeth yn bwrw ymlaen ag ymchwiliad cyhoeddus i Barc Cenedlaethol Glyndŵr am …

Joe Cordina was ‘retaliating’ when he punched man to ground – court

Former boxing world champion Joe Cordina was “retaliating” during a fight where he punched a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime