google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

PleIdiau’n targedu codau post penodol ar y cyfryngau cymdeithasol

Mae Facebook ac Instagram – sy’n cael eu rhedeg gan Meta – yn rhannu digon o wybodaeth i allu gwneud cymariaethau defnyddiol. Mae Google yn cyhoeddi rhywfaint o ddata, dydy X ddim yn rhyddhua dim, a dydy TikTok ddim cyn caniatáu hysbysebion gwleidyddol ar eu platfform.

Edrychodd BBC Cymrun ar faint wariodd pleidiau gwleidyddol ar hysbysebion oedd yn targedu pobl Cymru’n benodol.

Mae’r cyfansymiau’n cynnwys gwariant gan ganghennau lleol ac ymgeiswyr unigol, ond dim ond os ydyn nhw wedi gwario mwy na £100 – mae llawer wedi gwario llai felly mae’r union ffigurau ar gyfer pob plaid yn debygol o fod yn uwch.

Mae’r data hefyd yn cynnwys tudalennau ymgyrchu sy’n cael eu rhedeg gan bleidiau, er enghraifft mae gan y Democratiaid Rhyddfrydol dudalen o’r enw Stop Reform UK.

Nid yw’r ffigurau’n cynnwys gwariant ar ymgyrchoedd ar draws y Deyrnas Unedig er bod nifer o’r hysbysebion yma yn cael eu gweld gan bleidleiswyr yng Nghymru.

Mae rhai o’r pleidiau llai ac ymgeiswyr annibynnol wedi bod yn gwario arian ar hysbysebion hefyd.

Roedd yr hysbysebion eu hunain yn amrywio o ymosodiadau ar bleidiau a’u harweinwyr i ganolbwyntio ar bolisïau penodol. Roedd llawer o’r hysbysebion gafodd eu gweld fwyaf wedi’u targedu at drefi, etholaethau neu hyd yn oed godau post penodol.

Roedden nhw’n targedu pleidleiswyr yn ôl oedran a rhyw, a byddai ymgeiswyr lleol yn defnyddio hysbysebion i godi proffil gyda dolen i ddeiseb ar bwnc lleol.

Defnyddiodd rhai hysbysebion ddeisebau a dolenni cliciadwy i annog gweithgarwch.

Yn aml roedd pleidiau’n rhedeg sawl fersiwn o’r un hysbyseb ond yn talu iddyn nhw gael eu rhannu â gwahanol demograffeg.

Advertisements




BBC News

Views: 4

See also  Royal Welsh Show bans English livestock amid outbreak

Check Also

Cinio rhost yn y bore i ddisgyblion sy’n cyrraedd yr ysgol yn llwglyd

Dywedodd Nicola Fitzpatrick, Ysgrifennydd Cymru ar gyfer Undeb Addysg Cenedlaethol Cymru, y byddai’n hoffi gweld …

‘Uproar’ when children from England want Welsh education in Powys

Powys councillor James Gibson-Watt told the BBC: “As a county that borders a significant number …

Sul y Tadau: Y tad a’i ddau fab o Fangor sy’n caru snwcer

Ac mae Rio a Jaiden hefyd yn hynod ddiolchgar i’w tad am fod yn athro …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
aaa mush love. Learn more about troubleshooting wordpress.