google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pentref yn plannu miloedd o goed i geisio lleihau effaith llifogydd

Advertisements

Mae ystadegau’n dangos bod Cymru – fel gweddill y DU – yn profi lefelau uwch na’r cyfartaledd o law.

Dywed y Swyddfa Dywydd fod Hydref 2025 yn nodedig o wlyb yng Nghymru gyda glawiad 137% o’r cyfartaledd hirdymor, gan ei wneud y 10fed hydref gwlypaf ers 1836.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Ceredigion, sy’n gyfrifol am fesurau atal llifogydd yn Nhal-y-bont, fod y cyngor yn “yn cydnabod ac yn croesawu’r ymdrechion sylweddol a wnaed gan gymuned Tal-y-bont.”

Mae’r Cyngor wedi sicrhau cyllid gan Lywodraeth Cymru er mwyn paratoi achos busnes a dyluniad manwl ar gyfer cynllun amddiffyn llifogydd yn yr ardal.

Dywedodd Keith Ivens, rheolwr gweithrediadau perygl llifogydd Cyfoeth Naturiol Cymru y bydd gwarchod rhag llifogydd mewn lle fel Tal-y-bont yn heriol, gan fod afonydd serth sy’n llifo’n gyflym iawn gerllaw.

“Ni ellir atal llifogydd”, meddai Mr Ivens “ond mae atebion sy’n seiliedig ar natur fel y rhai a gyflawnir gan y grŵp gwirfoddol yn anelu at leihau difrifoldeb llifogydd sy’n golygu, trwy gyfuno hyn â mesurau gwydnwch eiddo gwych, y gall cymunedau wella’n gyflymach.”

Mae’r cyfnod plannu presennol yn dod i ben ddiwedd Mawrth ond dywedodd Linda Denton y bydd y gwirfoddolwyr yn cwrdd eto i blannu mwy ddiwedd y flwyddyn.


BBC News

Views: 1

See also  Y da, y drwg a'r rygbi: Blwyddyn fawr Rhys Patchell ar gamera

Check Also

Rhaid i gwmni peilonau roi gwell rhybudd cyn cael mynediad i dir – Uchel Lys

Dywedodd llefarydd ar ran Green GEN Cymru bod y dyfarniad “yn rhoi eglurder ynghylch defnyddio …

Arestio dau yn dilyn gwrthdrawiad sawl cerbyd sydd wedi anafu plentyn pump oed

Mae dau ddyn wedi eu harestio yn sgil gwrthdrawiad rhwng pedwar cerbyd a arweiniodd at …

Anthony Hopkins’ England shirt World Cup post divides fans

Sir Anthony Hopkins has prompted a flurry of divided reaction after sharing a photograph of …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Electric scooter guides.