google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Y da, y drwg a’r rygbi: Blwyddyn fawr Rhys Patchell ar gamera

Advertisements

Mae’r cyn-chwaraewr rygbi rhyngwladol Rhys Patchell wedi cael blwyddyn brysur, wrth iddo symud i Japan i chwarae rygbi, dod yn dad am y tro cyntaf, ac yna penderfynu gadael y gamp.

Blwyddyn fawr i unrhyw un… ond un hyd yn oed yn fwy heriol am fod camerâu teledu yno i ddogfennu’r cyfan ar gyfer cyfres i S4C.

Roedd Rhys a’i wraig, y gohebydd chwaraeon Heledd Anna, wedi cytuno i gael camerâu yn eu dilyn ar yr antur i ochr arall y byd, ond ar ôl iddyn nhw ffeindio allan fod babi ar y ffordd, bu’n rhaid i Heledd aros nôl gartref yng Nghaerdydd.

Roedd y flwyddyn, felly, yn anodd i bawb ar adegau, ond roedd y ddau yn awyddus i’r camerâu ddal yr holl emosiynau.

“Oedden ni’n meddwl, ‘os ni am wneud hyn, man a man i ni ei wneud e’n iawn’,” eglurodd Rhys. “Dwi’n credu ei bod hi’n bwysig, os yw sefyllfa yn anodd, dangos ei fod yn anodd.


BBC News

Views: 0

See also  Dr Xand: NHS league tables don't tell you how you'll be treated