google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pentref Llanpumsaint yn dod ynghyd i ‘gadw atgof Aaron i fynd’

Bydd elw’r digwyddiad yn mynd tuag at elusen Sandy Bears, sydd wedi bod o gymorth mawr i deulu Aaron.

“Mae rheiny wedi helpu Elgan a Betsan a’n ferch i, Elain, achos bod Aaron yn wncwl i Elain,” meddai Mathew.

“Mae ffordd gyda nhw o siarad gyda phlant. A helpu Lisa. Dangos i ni shwt i ddelio gyda’r plant hefyd.

“‘Neud rhywfath o memory box a gwahanol bethau, maen nhw’n ffantastig, ni wedi cael shwt help a s’dim byd yn ormod o waith iddyn nhw.”

Mi fydd Lisa, Betsan ac Elgan yn teithio yn hen gar Aaron ddydd Sadwrn, car roedd Lisa wedi prynu i’w gŵr yn anrheg priodas.

Mae eu ffrindiau wedi bod yn gweithio ar y car ers tro gan sicrhau ei fod mewn cyflwr da ar gyfer y penwythnos.

Wrth ddisgrifio beth fyddai Mr Jones yn meddwl o’r digwyddiad, dywedodd Mathew y byddai’n “hapus iawn”.

“Bydde fe’n prowd bod Lisa yn mynd â’r plant am wacen yn y car.”

Byddai Aaron hefyd yn “ddiolchgar iawn”, meddai Arwel.

“Bydde fe’n joio a bydde hon [y car] gyda fe wedi ei pholisho. Sai’n gwybod a odi Mathew yn mynd i bolisho hon i Lisa cyn dydd Sadwrn, ond bydde fe yn ei chanol hi.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Galw am ymchwiliad allanol i wariant Betsi Cadwaladr ar ymchwil iechyd meddwl

Check Also

Croeso arwrol i Elfyn Evans yn Nolgellau ar ôl ennill pencampwriaeth ralïo’r byd

Cafodd Elfyn Evans o Ddinas Mawddwy groeso arwrol ddydd Iau wrth iddo ddychwelyd i’w ardal …

Charlotte Church’s The Dreaming retreat to pause in December

Charlotte Church will “pause” her wellness retreat from December to “germinate new dreams for the …

Cardiff’s Krystian Bielik sees psychologist over alleged death threats after fan clash

A Hampshire Police investigation into the flashpoint concluded no further action was needed, with Bielik …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime