google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Parc antur Oakwood yn Sir Benfro i gau ar unwaith

Advertisements

Mae’r cwmni sy’n berchen ar Oakwood yn Sir Benfro wedi cyhoeddi y bydd y parc antur yn cau ar unwaith.

Mewn datganiad, dywedodd Aspro Parks Group fod y penderfyniad yn un “arbennig o anodd” ac wedi’i wneud ar ôl adolygiad strategol o’r busnes.

Dywedodd y cwmni fod yr hinsawdd economaidd wedi cyflwyno heriau sylweddol, a bod pob llwybr posib wedi cael ei archwilio i geisio osgoi’r cau.

“Er gwaethaf y buddsoddiad parhaus, mae niferoedd yr ymwelwyr wedi gostwng, ac mae perfformiad ariannol y parc wedi dirywio, gan olygu nad yw buddsoddi pellach yn gynaliadwy,” meddai’r cwmni.

“Mae cynnydd mewn costau gweithredu, gan gynnwys prisiau trydan, chwyddiant mewn bwyd a diod, cynnydd yn y Cyflog Byw Cenedlaethol, a newidiadau i’r trothwyon Yswiriant Gwladol, wedi dylanwadu ar y penderfyniad hwn.”

Ers prynu’r parc yn 2008 a’i achub rhag cau, dywedodd Aspro Parks eu bod wedi buddsoddi dros £25m yn y safle.

Yn ddiweddar, cafodd gwaith adnewyddu mawr ei gwblhau ar y reid Megafobia.

Ond mae’r parc wedi bod yn y penawdau ambell waith yn y blynyddoedd diwethaf hefyd am faterion diogelwch.


BBC News

Views: 0

See also  Literature: Experts fear BookTok fantasy threatens Welsh culture

Check Also

Cardiff’s National Museum Wales ‘discussing closure for repairs’

A workers’ union has said it is in “early discussions” about the potential closure of …

Conwy teen bullied for Pfeiffer skull condition training as doctor

A teenager who underwent 44 surgeries for a rare skull condition has said it was …

Watch Wales' Xu in her Wimbledon opener

Follow Court 16 action as GB’s Mimi Xu takes on Daria Kasatkina on day 1 …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime