google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ozzie y ci tywys ‘y peth gorau’ i ddigwydd i ferch o Aberteifi

Advertisements

Mae Jackie, mam Hannah, yn sôn am sut oedd y teulu yn ymddiried yn Ozzie: “Roedd gweld y berthynas yma rhwng Hannah a Ozzie yn datblygu, a’r ffydd yma’n gweithio’r ddau ffordd, a bod hi’n gallu dibynnu arno fe.

“Roedd perthynas cryf iawn ‘da nhw, ond o’n i wedi bod yn eitha’ lwcus – achos mae plentyn oedd Hannah yn cael Oz, o’n i’n gorfod mynd gyda hi amser oedd hi’n cael ei hyfforddi i weithio gyda fe.

“O’n i’n dilyn nhw rownd Sblot yng Nghaerdydd am dair wythnos, ac o’n i’n gallu gweld sut gymaint o help oedd Oz i Hannah, ond hefyd faint o waith oedd e i Hannah i wneud yn siŵr bod hi’n gweithio Oz mewn ffordd oedd yn edrych ar ôl fe a wedd e yn deall beth oedd hi moyn.

“Oedd hi â ffydd yn Oz, ond oedd eisiau ffydd yndda i yn Oz hefyd. O’n i’n gweld e’n cerdded gyda hi, reit lan i ymyl y pafin, stopio ac wedyn croesi’r hewl yn deidi.

“Gyda amser o’n i wedi dod i ddeall mai Oz oedd un o’r pethe gore oedd byth wedi bod gyda Hannah.

“Oedd hi’n neud a gallu neud popeth oedd hi moyn cyn hynny. Ond oedd gwneud e gyda Oz shwt gymaint yn rhwyddach. Roedd e’n helpu gweithio mas y ffordd gyda hi. Roedd partneriaeth sbeshal iawn gyda nhw.

Os na fydden i wedi dilyn hi amser oedd hi’n cael yr hyfforddiant, bydden i ddim wedi sylwi faint o waith oedd wedi mynd mewn i Oz i gael e i fod yn gi mor sbeshal.

“Ond mae’n syndod beth maen nhw’n gallu neud, maen nhw’n sbeshal iawn.”


BBC News

Views: 4

See also  Challenge Cup: Stade Francais 38-17 Cardiff - Parisians power to victory

Check Also

Gareth Evans-Jones o Fôn yn ennill Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol

Daw Gareth Evans-Jones o Draeth Bychan ger Marian-glas, Ynys Môn. Mae’n ddarlithydd Athroniaeth a Chrefydd …

Lluniau: Dydd Mercher yn Eisteddfod Genedlaethol Y Garreg Las 2026

Daeth yr haul allan eto ar ddydd Mercher yr Eisteddfod ar ddiwrnod Dysgwr y Flwyddyn, …

Swansea City’s Ben Cabango given driving ban for using phone in car

Swansea City captain Ben Cabango has been banned from driving for six months after admitting …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Elfbar elfx kit dark sea archives elfbar vape store. Elfbar elfa basic units (battery carrier).