google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Oedi’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar ôl protestio

Mae’r gwrthbleidiau yn y Senedd wedi croesawu’r penderfyniad hefyd, gan hawlio eu bod hwythau wedi cael dylanwad arno.

Dywed y Ceidwadwyr Cymreig bod y llywodraeth “wedi gwrando” ar eu pryderon ynghylch effaith y cynllun ar ddyfodol amaeth yng Nghymru.

“Mae’n gam positif i weld bod y Gweinidog wedi gwrando ar y diwydiant, yr undebau a’r holl filoedd o bobl a ymatebodd i’r ymgynghoriad trwy oedi gweithredu’r CFfC,” dywedodd llefarydd materion gwledig y blaid, James Evans.

Ond mae’n dweud bod angen “gwir newid” o hyd i’r cynllun presennol mewn ymateb i bryderon ffermwyr i “sicrhau [cynllun] sy’n gweithio er budd ein ffermwyr, yn hytrach nag yn eu herbyn”.

Mae Plaid Cymru’n dweud bod y cytundeb cydweithredu rhyngddyn nhw a Llywodraeth Cymru “wedi sicrhau mwy o amser i gael y Cynllun Ffermio Cynaliadwy yn gywir”.

Dywedodd eu llefarydd materion gwledig Llyr Gruffydd, bod Mr Irranca-Davies yn dilyn trywydd “paragmataidd a synhwyrol”, ac yn rhoi “pwyslais cryfach ar ymgysylltu gyda ffermwyr ac ar gynhyrchu bwyde”.

“Rwyf wedi hen ddadlau bod rhuthro i gynllun a fyddai’n effeithio ar ffermio am genedlaethau yn anghyfrifol a hurt,” ychwanegodd. “Mae gyda ni gyfle nawr i gymryd cam yn ôl a gwneud y newidiadau angenrheidiol a fydd yn sicrhau cefnogaeth y diwydiant a chynllun mwy cynaliadwy i amaeth a natur.”


Source link

Views: 1

See also  Wrecsam: Dyn wedi marw ac un arall wedi'i anafu mewn gwrthdrawiad

Check Also

Dau AS Llafur o Gymru yn galw ar Keir Starmer i ymddiswyddo

Dywedodd Tonia Antoniazzi ar ei chyfryngau cymdeithasol brynhawn Llun ei bod hi hefyd yn galw …

Alice Griffiths: Wales midfielder quits professional game at 25

Wales midfielder Alice Griffiths has announced her retirement from the professional game at the age …

Tad Rhun ap Iorwerth 'methu credu' llwyddiant Plaid Cymru

Tad Rhun ap Iorwerth “methu credu” llwyddiant Plaid Cymru, gyda’i fab yn debygol o gael …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime