google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Carchar am oes i ddyn wnaeth ysgwyd babi pum mis oed i farwolaeth

Advertisements

Mae dyn wnaeth lofruddio babi pum mis oed drwy achosi anafiadau “catastroffig” i’w ymennydd tra’n ei warchod wedi cael ei garcharu am o leiaf 19 o flynyddoedd.

Bu farw Jensen-Lee Dougal yn yr ysbyty ar 31 Mawrth 2024, ddiwrnod ar ôl iddo gael ei ysgwyd gan Thomas Morgan, partner ei fam.

Cafwyd Morgan, 29 o Orseinon ger Abertawe, yn euog o lofruddio Jensen-Lee yn gynharach yn y mis ar ôl honni iddo geisio achub y babi rhag tagu.

Roedd Morgan wedi mynnu ei fod yn ddieuog ar ôl marwolaeth y babi ac fe wnaeth o hyd yn oed fynychu ei angladd ym Mai 2024.

Cafodd Morgan ei arestio ar amheuaeth o achosi’r anafiadau i Jensen-Lee ym mis Gorffennaf 2025.

Wrth ddedfrydu Morgan, dywedodd Mrs Ustus Stacey ei fod wedi “ysgwyd Jensen-Lee mor dreisgar nes [iddo] achosi anafiadau difrifol”.

Wedi’r ddedfryd mi ddywedodd mam Jensen-Lee, Jordan Dougal ei bod yn byw gyda “galar, trawma a phoen llethol”.

“Mae mynd trwy’r dydd weithiau’n teimlo’n amhosibl. Nid yw’r boen yn lleihau gydag amser,” meddai.


BBC News

Views: 1

See also  Iconic 1973 JPR Williams rugby shirt sells for £27k

Check Also

Dau AS Llafur o Gymru yn galw ar Keir Starmer i ymddiswyddo

Dywedodd Tonia Antoniazzi ar ei chyfryngau cymdeithasol brynhawn Llun ei bod hi hefyd yn galw …

Alice Griffiths: Wales midfielder quits professional game at 25

Wales midfielder Alice Griffiths has announced her retirement from the professional game at the age …

Tad Rhun ap Iorwerth 'methu credu' llwyddiant Plaid Cymru

Tad Rhun ap Iorwerth “methu credu” llwyddiant Plaid Cymru, gyda’i fab yn debygol o gael …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime