google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Oedi camau disgyblu’n ‘rhwystredig a siomedig’ wedi marwolaethau Llaneirwg

Advertisements

Wrth rannu ei gydymdeimlad â theuluoedd a ffrindiau Darcy, Eve a Rafel, dywedodd Dirprwy Brif Gwnstabl Heddlu Gwent Nicky Brain: “Cyn gynted ag y cafodd yr ymchwiliad ei drosglwyddo’n ôl i ni gan yr IOPC ym mis Tachwedd y llynedd, mae’r holl achosion camymddwyn y mae modd eu rheoli o fewn y sefydliad wedi digwydd.

“Mae’n ddewis i unrhyw unigolyn sy’n wynebu honiadau o gamymddwyn os ydyn nhw am barhau i gael eu cyflogi gan yr heddlu.

“Os yw rhywun yn dewis ymddiswyddo tra ei fod dan ymchwiliad am gamymddwyn, yna gellir cynnal achos o hyd gyda’r sancsiwn o ‘ddiswyddo os nad oeddent wedi gadael y gwasanaeth heddlu yn flaenorol’ fel opsiwn i’r panel camymddwyn.”

Dywedodd llefarydd ar ran yr IOPC: “Mae ein meddyliau a’n cydymdeimlad yn parhau â theuluoedd y bobl ifanc a gollodd eu bywydau’n drasig, y rhai a gafodd eu hanafu yn ddifrifol, a phawb a gafodd eu heffeithio gan y digwyddiad hwn, ac rydym yn cydnabod faint o amser y bu’n rhaid iddynt aros.

“Roedd hwn yn ymchwiliad cymhleth ac yn gofyn am lawer o adnoddau, ond roedd yn bwysig i sicrhau hyder y cyhoedd mewn plismona, bod y digwyddiad trasig hwn yn destun craffu trylwyr ac annibynnol.

“Fe wnaethom gwblhau ein hymchwiliad ym mis Hydref 2025. Nawr mae’n gyfrifoldeb ar Heddlu Gwent i drefnu a chynnal yr achos disgyblu sy’n weddill.

“Rydym yn deall bod y teuluoedd, eisiau atebion ac atebolrwydd, sy’n hollol ddealladwy, ac rydym yn gobeithio y bydd canfyddiadau ein hymchwiliad yn cyfrannu at ddarparu hynny.”

Mae ymchwiliad ar wahân gan Heddlu De Cymru i’r gwrthdrawiad wedi dod i ben, a dywedodd yr heddlu fod y ffeil bellach gyda’r crwner cyn cwestau yn y dyfodol.


BBC News

Views: 1

See also  Democratiaid Rhyddfrydol yn addo arian i 'achub' y GIG

Check Also

Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad beic cwad ger Llandrillo

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd rhwng Llandderfel a Llandrillo. Digwyddodd y …

County Championship: Glamorgan seal innings win over Hampshire

Glamorgan completed a County Championship victory over Hampshire for the first time since 1991, and …

‘Siomedig a dig’ – etholwyr heb bleidleisiau post cyn etholiad

Yn ôl y Democratiaid Rhyddfrydol, mae eu canfaswyr wedi siarad â nifer o bobl yng …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Our free link building tool gives you instant access to contextual links from thousands of websites worldwide.