google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Nyrs yng Ngwynedd yn euog o ymosod ar ei chymydog mewn ffrae dros barcio

Advertisements

Clywodd y llys fod yna hanes o “ddrwgdeimlad” rhwng Sharman a’i chymdogion ar draws y ffordd, Alun a Jane Jones, oedd yn aml yn ymwneud â pharcio.

Mae stryd Penybryn yng nghanol Llan Ffestiniog yn stryd gymharol gul, gyda lle i geir barcio ar un ochr yn unig – yr ochr lle mae Sharman yn byw.

Ar 25 Gorffennaf 2025, dywedodd Sharman ei bod yn teimlo dan straen ar ôl i Alun Jones barcio Vauxhall du y tu allan i’w thŷ.

Cafodd Sharman ei ddal ar gamera yn cerdded i fyny’r llwybr at ddrws ffrynt ei chymdogion.

Pan mae Alun Jones yn ateb, mae hi’n cael ei chlywed yn mynnu eu bod nhw’n symud eu car, gan weiddi: “Beth wyt ti’n ei wneud?”

Ond mae’r fideo, a gafodd ei ddangos i’r llys, yn dangos Alun Jones yn gwrthod siarad â hi ac mae’n cau’r drws.

Dywedodd ei wraig Jane Jones wrth y llys ei bod hi wedyn wedi clywed cnoc arall ar y drws a’i bod hi wedi mynd i ateb.

Dywedodd fod Sharman “yn gwthio yn erbyn y drws. Ro’n i’n ceisio cau’r drws, ond roedd hi’n gwthio yn erbyn o gyda’i phwysau i gyd felly allwn i ddim”.

“Wnaeth hi gamu i mewn, wnes i fynd yn y ffordd a chefais fy nharo yn y frest gan ei dwrn.

“Ro’n i mewn sioc, do’n i ddim yn ei ddisgwyl o gwbl.”


BBC News

Views: 3

See also  Dan Edwards: Wales fly-half prepares for 50th Ospreys appearance

Check Also

Nations Championship: Kane James in mix for Wales debut against Argentina

Wales are considering giving Exeter back-row forward Kane James a Test debut against Argentina in …

Connah’s Quay Nomads 0-0 FC Ballkani: Solid Nomads draw in Conference League

Both teams were evenly matched on a hot evening in Colwyn Bay. An awkward bounce …

Plaid Cymru make Labour additional learning needs offer in budget deal bid

Wales’ Plaid Cymru government is offering extra cash for children with additional learning needs (ALN) …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime