google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Andy Burnham ‘ddim yn bwriadu diwygio’ fformiwla ariannu Cymru

Cynhaliwyd asesiad mawr o anghenion Cymru ddiwethaf gan yr economegydd Gerry Holtham yn 2010.

Pan oedd yn faer Manceinion, cyd-ysgrifennodd Burnham lyfr yn 2024 gyda maer Lerpwl, Steve Rotheram, a amlinellodd sut y bydden nhw’n mynd i’r afael ag anghydraddoldeb ac yn ailwampio dosbarthiad arian cyhoeddus.

Ynddo, dywedon nhw fod angen “fformiwla newydd sy’n cwmpasu’r DU gyfan ac yn cynnwys rhanbarthau Lloegr fel endidau ar wahân”, ac y byddai cyllid “yn cael ei ddyrannu i’r rhanbarthau a’r cenhedloedd yn seiliedig ar ffactorau cymdeithasol a lefelau angen”.

Cymharodd y llyfr hefyd y DU â “phlasty mawreddog” lle’r oedd y pŵer ymlaen mewn rhai ystafelloedd yn unig.

Cymharodd yr “ystafell fyw fawr” lle’r oedd y goleuadau’n gweithio’n dda â Llundain.

Dywedodd mai’r Alban oedd yr ystafell wely fawr lle’r oedd y “goleuadau’n fflachio”, ac “i lawr y landin, mae dwy ystafell wely lai lle mae’r goleuadau’n gweithio ond maen nhw wedi pylu”.

“Rwy’n credu eich bod chi’n gwybod i ble mae hyn yn mynd – Cymru a Gogledd Iwerddon ydyn nhw.”

Cynigiodd y ddau hefyd ddileu ‘Llyfr Gwyrdd’ y Trysorlys – canllawiau gwariant swyddogol Llywodraeth y DU.

Mae beirniaid yn dadlau bod y llyfr gwyrdd yn rhoi Cymru a rhanbarthau Lloegr dan anfantais drwy sianelu buddsoddiad i dde-ddwyrain Lloegr.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  Cyhoeddi rhestr fer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2025

Check Also

Florian Bianchini: Future doubt as forward left out of Swansea City tour squad

They are due to return to pre-season training after the trip, while the other Swan …

North Wales Police officer developed PTSD over handling of affair complaint, court told

A consultant psychiatrist has told a court that a former North Wales Police officer developed …

St Mellons crash: Man charged with fraud relating to car MOT

A 47-year-old man has been charged with fraud relating to the car involved in a …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Risk from concomitant use of sedative medicines such as benzodiazepines or related drugs :.