google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Newidiadau i gymorth ariannol ffermwyr yn ‘nonsens’

7b337be0 184f 11f0 8a1e 3ff815141b98.jpg

Advertisements

Ym mis Chwefror dywedodd Prif Weinidog Cymru, Eluned Morgan ei bod yn “pryderu” am newidiadau Llywodraeth y DU i’w rheolau ar ariannu cymorth i amaethyddiaeth yng Nghymru yn y dyfodol.

Dywedodd Eluned Morgan y gallai newid yn y fformiwla ariannu olygu bod Cymru ar ei cholled, gydag Undeb Amaethwyr Cymru yn rhybuddio am doriad o £146m y flwyddyn, neu fwy na 40%.

Fore Sul dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: “Rydym yn croesawu’n fawr y ffaith ein bod bellach yn gallu penderfynu faint o gymorth amaethyddol y gallwn ei ddarparu, diolch i gytundeb gyda Llywodraeth y DU.

“Mae ein cyllideb yn darparu dros £366m ar gyfer cymorth amaethyddol eleni.

“Mae hyn gryn dipyn yn fwy na’r hyn a ddarparwyd yn 2024-25, sef y flwyddyn olaf y cafodd cyllid fferm ei ddosbarthu gan Lywodraeth y DU.”

Dywedodd llefarydd ar ran y Trysorlys: “Yn y gyllideb, cyhoeddodd y canghellor y setliadau termau real mwyaf i’r llywodraethau datganoledig ers datganoli.

“Mae Llywodraeth Cymru yn cael dros 20% yn fwy y pen na gwariant cyfatebol Llywodraeth y DU yn Lloegr, sy’n cyfateb i dros £4 biliwn yn fwy yn 2025-26.

“Rydym wedi seilio’r swm llawn o gyllid amaethyddol a ddarparwyd i Gymru yn 2024-25 i setliad Llywodraeth Cymru yn 2025-26, sy’n gyfran uwch o’r boblogaeth.”


BBC News

Views: 0

See also  Shropshire builder jailed for 'ripping off customers to fund lifestyle'

Check Also

Plaid Cymru councillor suspended over migration comments

Plaid Cymru said: “Following a formal complaint received by Plaid Cymru regarding councillor Gareth Anthony …

Plaid Cymru’n atal cynghorydd Bangor dros sylwadau mewnfudo

Yn siarad mewn cyfarfod o Bwyllgor Cynllunio Cyngor Gwynedd, dywedodd Mr Roberts fod y ddinas …

County Championship: Glamorgan rack up runs on day one against Hants

The pitch looked like bowling would be king, and tempted Ben Brown into choosing to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Link. Yani kullanıcılar güncel cassinox giriş adresini tarayıcılarına yazar ve doğrudan erişim sağlar.