google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , September 30 2026

‘Dydy’r ymddeoliad ddim ar y gorwel bellach. Mae ar garreg y drws’

Roedd 1997 yn flwyddyn etholiadol fawr.

Ar 1 Mai cafodd Tony Blair a Llafur Newydd fuddugoliaeth ysgubol gan ennill 34 o’r 40 sedd yng Nghymru.

Ond mae’n siŵr mai rhaglen y refferendwm ym mis Medi’r flwyddyn honno ydy’r un a fydd yn aros hiraf yn y cof.

Wna i fyth anghofio John Meredith, ein gohebydd yn neuadd y cyfrif, yn datgelu, cyn pawb arall, fod y canlyniad yn Sir Gaerfyrddin yn mynd i olygu mai ‘Ie’ i ddatganoli a fyddai’n ennill trwy Gymru.

Awr ynghynt, am dri o’r gloch y bore, roedd hi’n ymddangos mai fel arall y byddai hi, a doedd un o’n panelwyr ni ar y noson ddim yn gallu celu ei siom.

Dan deimlad, penderfynodd Dafydd Iwan adael y stiwdio.

Ond pan gyhoeddwyd canlyniad Sir Gaerfyrddin, roedd Dafydd yn ôl yn ei sedd.

Tua’r cyfnod yna y dechreuodd y rhaglen dderbyn e-byst gan wylwyr a gwrandawyr.

Roedd yna sylwadau difyr, cwestiynau treiddgar, ambell englyn, ac o bryd i’w gilydd, cwynion.

Daeth un o’r rai cyntaf o Gaernarfon – ‘mae’n warthus nad oes gynnoch chi gamerâu yma!’

Gan fod cymaint o etholaethau, roedd yn rhaid i’r golygyddion ddewis a dethol lle dylid anfon gohebwyr a chamerâu.

Yn yr achos yna, dwi’n tybio eu bod nhw wedi penderfynu na fyddai yna ganlyniad annisgwyl yng nghadarnle Dafydd Wigley.

Gan mai dim ond 16 o etholaethau sydd yna’r tro hwn, bydd gan y rhaglenni radio a theledu ohebwyr ym mhob etholaeth.


BBC News

Advertisements

See also  New inheritance tax rules could destroy businesses, warns entrepreneur

Check Also

Dydy’r pwysau ar Dîm Achub Mynydd Llanberis ‘ddim yn gynaliadwy’

Yn ôl Tîm Achub Mynydd Llanberis, tra bod eu gwirfoddolwyr wrth eu boddau â’u gwaith, …

Gobaith y bydd dirwyon £150 am adael injan ymlaen yn ‘newid arferion’

Dywedodd Anna, a oedd yn casglu ei phlant o Ysgol Treganna fod yr ardal yn …

Cynllun 'pilsen ar linyn' i ddarganfod y risg o ddatblygu math o ganser

Mae gan bobl sy’n dioddef o ddŵr poeth cronig y cyfle i gymryd rhan mewn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime