google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Saturday , September 26 2026

Codi prisiau parcio i geisio lleddfu traffig Niwbwrch

73ff7370 3739 11f0 8519 3b5a01ebe413.jpg

Bu’n esbonio mwy hefyd am yr arbrawf fydd yn cael ei gynnal, fydd yn gweld y maes parcio yn cau pan fydd yn llawn.

“Bydd y treial yn atal cerbydau rhag mynd i mewn i’r safle unwaith y bydd y maes parcio yn llawn – mae hyn yn digwydd fel arfer ar ôl 11:00 neu’n gynt yn ystod gwyliau’r banc, penwythnosau a chyfnodau o dywydd da,” meddai.

“Rydym yn gofyn i ymwelwyr ystyried ymweld ar adegau tawelach neu fynd draw i un o’r nifer o draethau a chyrchfannau eraill ar Ynys Môn.”

Mae system mewn lle sy’n adnabod rhifau cofrestru cerbydau wrth iddyn nhw fynd i mewn, ac mae cwsmeriaid yn talu gyda cherdyn wrth adael.

Dywedodd Cyngor Ynys Môn y byddan nhw’n gorfodi’r rheolau parcio sydd eisoes mewn grym yn y pentref ar ardal ehangach dros benwythnos Gŵyl y Banc.

Maen nhw hefyd yn gofyn am gymorth cyhoedd trwy barcio cyfrifol a diogel sy’n ystyriol o’r gymuned leol.


BBC News

Advertisements

See also  Canlyniadau Dydd Mercher 5 Awst // Results for Wednesday 5 August

Check Also

Burnham yn diystyru rhoi pwerau i gynnal refferendwm annibyniaeth i Gymru

Bydd Burnham yn annerch ei gynhadledd Lafur cyntaf fel Prif Weinidog yr wythnos nesaf, ac …

Netball World Cup: Northern Ireland shock Wales 50-49 in qualifier

Northern Ireland fought from behind to claim a shock 50-49 win over Welsh Feathers in …

Andy Burnham rules out giving Wales independence referendum powers

The prime minister has ruled out handing powers to hold a referendum on independence to …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime