google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Newid iaith grŵp o’r Gymraeg i’r Saesneg ‘ddim yn helpu’r iaith’

Mae’r fideo wedi ennyn ymateb ar-lein gyda mwy na 50,000 o bobl yn ei wylio, rhywbeth sy’ wedi syfrdanu Ben: “Mae’n anhygoel – mae’r cyfrif yn fach a do’n i ddim yn disgwyl i un o’r reels i gyrraedd 50,000 o bobl.”

Mae Ben, sy’n dod o Sir Hertford yn wreiddiol, yn angerddol am bolisi iaith ac wedi dysgu Cymraeg er mwyn cyfrannu i’r maes: “Dw i’n credu taw dwyieithrwydd yw un o’r pethau gorau yn y byd. Ac yng Nghymru, rydym yn colli hynny.

“Y neges ar fy Instagram yw’r peth pwysicaf i fi achos os mae hyd yn oed un person yn newid arferion ynglŷn â’r iaith neu yn dysgu un peth am pam ni’n gwneud y pethau yma, dwi’n hapus.”

Fel un o Loegr roedd Ben yn poeni i gychwyn am yr ymateb i’w fideos am siarad Cymraeg: “O’n i’n poeni am hyn pan yn symud i’r maes yma – dwi’n ymwybodol o ble dwi’n dod a’r profiadau dwi wedi cael.

“Ond dwi wedi cael ymateb mor bositif o’r gymuned Gymraeg. Dwi wedi clywed llawer o stereotypes am beth mae pobl sy’n siarad Cymraeg yn meddwl am bobl o Loegr sy’n dod i mewn, ond mae hyn yn syml iawn ac yn osgoi realiti.

“Os ti’n trio ymuno â’r gymuned mae pobl yn hapus.”

Dadl Ben yw ei bod hi’n fantais bod e ddim yn Gymro ac felly mae’n gallu siarad am yr iaith Gymraeg o safbwynt newydd: “Dw i’n credu taw mantais fawr yw’r ffaith nad ydw i’n dod o Gymru achos ‘mod i’n gweld y penderfyniadau, y datblygiadau, a’r dadleuon o safbwynt hollol wahanol – safbwynt sy’ wedi cael ei ddylanwadu gan yr ymdrech i ymuno â’r gymuned Gymraeg a phrofi defnyddio’r Gymraeg mewn amgylchoedd gwahanol.”


BBC News

Advertisements

See also  AIG Women's Open: Georgia Hall eyes more success in Wales

Check Also

Elfyn Evans defies history to join Britain’s rally greats Colin McRae and Richard Burns with WRC title

For what must have felt like an eternity, Elfyn Evans feared history was repeating itself …

‘Pontio’ parc cenedlaethol yng Nghymru a’r Ariannin ‘am y tro cyntaf’

Cafodd yr anthemau cenedlaethol eu canu, nifer o siaradwyr o wahanol sefydliadau, arwyddo Memorandwm, cyfnewid …

Mari Grug a’r gyfres Amour a Mynydd ymhlith enillwyr BAFTA Cymru 2026

Mae’r actor Matthew Rhys a’r gyflwynwraig Mari Grug ymhlith enillwyr seremoni BAFTA Cymru 2026. Roedd …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime