google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Newid agweddau at gerddoriaeth Saesneg yn ‘beth da i’r Gymraeg’ – DJs

Advertisements

Un sydd wedi gweld effaith y newid tuedd ar ei gerddoriaeth yw’r DJ a’r cynhyrchydd Endaf Roberts.

Mae’n enw cyfarwydd i fyd cerddoriaeth Gymraeg, ag yntau wedi ymddangos ar raglenni Y Llais a Cân i Gymru yn ddiweddar.

Yn dilyn rhyddhau ei gân newydd ‘Dwisho Deud’, mae wedi synnu o weld o le mae’r gwrandawyr yn dod.

Erbyn hyn mae modd edrych ar ddata i weld lle mae’r gerddoriaeth yn cael ei chwarae.

Y llefydd mwyaf poblogaidd oedd Lerpwl, wedyn Llundain, ac yna Melbourne yn Awstralia.

Ni wnaeth unrhyw le o Gymru ymddangos ar y rhestr hon tan y chweched safle, sef Caerdydd.

“Nid yw’r steil o gerddoriaeth yma yn un sy’n benodol Gymreig, ond mae’n boblogaidd ar draws gwahanol genres gwanhaol,” meddai.

Fel cynhyrchydd, dywed Endaf ei fod yn tueddu i wrando ar wahanol steiliau ac acenion yn hytrach na chanolbwyntio ar y geiriau.

Mae’n meddwl bod yr agwedd hon at gerddoriaeth yn sicr o gael effaith gadarnhaol ar fyd cerddoriaeth Gymraeg.


BBC News

See also  Church in Wales urged to share full reports as Archbishop retires

Check Also

Welsh Feathers name 12-player squad for World Cup qualifiers

Interim head coach Reinga Bloxham has made one change to the Welsh Feathers squad for …

Ras teulu i godi £250,000 ar gyfer triniaeth canser i’w mab yn America

Dywedodd Llywodraeth Cymru: “Nid yw DFMO (eflornithine) wedi’i drwyddedu i’w ddefnyddio yn y Deyrnas Unedig …

Cyngor yn ceisio atal tipio ‘miloedd o dunelli o wastraff’ ger pentref

Daw’r ymchwiliadau yng Nghoed-poeth wrth i safle arall – tua hanner milltir i ffwrdd ar …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime