google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Mwy a mwy anodd darparu rhaglenni o safon uchel – cadeirydd S4C

9a0388c0 3628 11f0 8947 7d6241f9fce9.png

Advertisements

Mae S4C yn derbyn tua £97m y flwyddyn, yn bennaf o ffi’r drwydded, i ddarparu’r gwasanaeth.

Dywedodd Delyth Evans wrth y pwyllgor: “Dwi’n meddwl gyda’r gwariant yma mae S4C yn gwneud job dda iawn o ddarparu arlwy o safon uchel iawn i’n cynulleidfaoedd ni.

“Mae pwysau ar y sector cynhyrchu, wrth gwrs, achos chwyddiant ac mae costau cynhyrchu yn mynd lan.

“Mae’n fwy a mwy anodd i gwmnïau ddarparu rhaglenni o safon uchel o fewn cyllidebau tynn, ond maen nhw yn llwyddo i wneud hynny a dwi’n teimlo bod safon yr arlwy yn arbennig o uchel o fewn y cyfyngiadau hynny.”

Dywedodd mai’r ddau beth pwysicaf i S4C yw “cadw lefel y taliad y’n ni’n cael, a sicrwydd ar gyfer y dyfodol”.

Wrth gyfeirio at y gyllideb £97m, dywedodd ei fod yn bwysig “ein bod ni’n gallu cynnal yr arian ry’n ni’n cael, bod e ddim yn gostwng mewn unrhyw ffordd”.

“Os oes unrhyw newid yn y ffordd mae S4C yn cael ei ariannu, y peth pwysig i S4C yw bod yr arian yna yn dal i fod a bod dim unrhyw fath o fygythiad i hynny, a bod ni hefyd yn cael sicrwydd am flynyddoedd ar gyfer y gyllideb,” meddai.

Dywedodd ei bod yn “cymryd blynyddoedd i gynllunio ymlaen llaw, yn arbennig pethau fel dramâu, sy’n un o’n llwyddiannau mawr ni ar S4C”.


BBC News

Views: 1

See also  Yr Americanwr ddysgodd y Gymraeg o gariad at ganu gwerin

Check Also

'We've grown up with it, it's vital' – teens oppose social media ban

A group of teenagers claim they need social media “to survive”, but one head calls …

Strictly was terrifying, says weather presenter Carol Kirkwood

The 63-year-old did not say yes to the show immediately as she was afraid of …

People forced to leave street at risk of flooding say goodbye

Residents of a street at severe risk of flooding say goodbye at an event before …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
A simple, neat ad bar featuring a few text ads appears at the bottom of every website within the network.