google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Pwy sy’n cofio Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn 2004?

Alwen Jones o Amlwch oedd ysgrifennydd y pwyllgor gwaith ar gyfer yr Eisteddfod yn 2004.

A dyma sy’n aros yn y cof iddi hi.

“Un o fy swyddi, a be’ dwi’n cofio fwyaf, oedd tywys llywyddion y dydd o amgylch. Oedd ‘na Lywydd y Dydd, gwahanol rai bob dydd.

“Dwi’n cofio tywys Gwyn Hughes Jones. Roedd o wedi cynnal cyngerdd ar y nos Sul ac mi oeddwn i’n ei dywys ar y dydd Llun, a dau gam, ac roedd ‘na rywun yn ein stopio ni!

“Mi gymrodd o oria’, pobl yn ei longyfarch o.

“Un arall dwi’n cofio cymryd o gwmpas oedd Iwan Llywelyn Jones o Amlwch ac wrth gwrs roeddwn i’n ‘nabod o hefyd.

“Be’ dwi’n gofio ‘efo fo – mynd i babell a phrynu crys-t a gofyn i mi ddewis pa grys-t iddo fo wisgo…”

Flynyddoedd yn ddiweddarach, dywedodd Alwen ei bod hi’n “cofio gweld Iwan ar ryw raglen deledu wrth ymyl ei biano mawr yn ei gartref yn Llundain a’r crys-t ‘ma amdano fo, a fi ddudodd wrtho fo am brynu hwnna!”


BBC News

Advertisements

See also  House of the Dragon star 'loved filming' in Wales for new series

Check Also

Lluniau: Gŵyl Sŵn 2026 – BBC Cymru Fyw

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, …

Arlunydd o Geredigion yn arddangos ei waith yn Fenis

Roedd y cyfle i arddangos ei waith yn Fenis yn deillio o’r ffaith bod cwmni …

Pontypool student’s MenB death to be examined by jury

A jury is to hear the inquest into the death of an 18-year-old who died …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime