google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Arestio dyn 18 oed yn dilyn achos o drywanu yn Y Barri

Advertisements

Mae dyn 18 oed wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag achos o drywanu yn Y Barri ar ddydd Llun Gŵyl y Banc.

Bu rhaid i fachgen 17 oed fynd i’r ysbyty ar ôl cael ei drywanu yn ei goes ar 25 Mai, ond dywedodd Heddlu De Cymru nad yw ei anaf am fygwth na newid ei fywyd.

Dywedodd yr Uwch-arolygydd Ditectif Lisa Gore: “Rydym wedi arestio rhywun dan amheuaeth ac ar hyn o bryd dydyn ni ddim yn chwilio am unrhyw un arall.

“Rydym yn deall bod hyn wedi achosi pryder sylweddol a bydd mwy o bresenoldeb yr heddlu yn yr ardal dros y dyddiau nesaf er mwyn tawelu meddyliau pobl.”

Aeth ymlaen i ddiolch i’r rhai sydd wedi cynorthwyo eu hymchwiliadau hyd yma ond mae’n annog unrhyw un sydd ag unrhyw wybodaeth i gysylltu â nhw.


BBC News

See also  Bangor: Storm Darragh wind and rain 'feels like sandpaper'

Check Also

Dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur

Mae dyn wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau feic modur ym Mhort Talbot. Cafodd …

Racecourse Kop: Why a new stand has become symbolic for Wrexham

Then there are the new facilities. The dressing room areas and tunnel will move to …

MMA: Cris Cyborg snubs retirement after 30th win and calls out Claressa Shields & Kayla Harrison

Cris Cyborg appears set to continue her fighting career after a hard-fought points win against …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime