google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Wednesday , October 14 2026

Mor ddiolchgar i’m brawd am “rodd gwbl anhygoel”

“Does gen i ddim geiriau i gyfleu fy niolchgarwch a’m hedmygedd o’m brawd Huw sydd newydd roi aren i fi,” meddai’r Parchedig Wyn Thomas.

Ers misoedd mae Wyn Thomas, 42, o Dre-fach yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn gwbl ddibynnol ar driniaeth dialysis wedi i’w arennau fethu yn llwyr ym mis Mehefin 2024.

Ym mis Rhagfyr cafodd Wyn, sy’n un o gydlynwyr elusen Tir Dewi ac yn bregethwr gydag enwad yr Undodiaid, ei roi ar restr aros am aren ond ddechrau Awst eleni fe ddaeth yr aren honno gan ei frawd Huw.

“Mae Huw wedi rhoi i mi rodd gwbl anhygoel,” meddai Wyn Thomas wrth siarad yn rhifyn yr wythnos hon o Bwrw Golwg.

“I fod yn onest ‘nes i ffindio’r holl beth yn anodd yn emosiynol.

“Mae ‘da fi ryw syniad eitha egoistadd fi’n credu mai fi yw’r un sy’n helpu pobol, mai fi yw’r un sydd i fod i sorto pethe mas ac o’n i’n teimlo hi’n anodd ildio a derbyn help.

“Ond allai fyth roi e mewn geiriau pa mor ddiolchgar ydw i – mae ryw deimlad diymhongar iawn o fod wedi cael y fath rodd – mae e jyst yn arbennig iawn iawn.”


BBC News

Advertisements

See also  Andy Rinomhota: Ex-Cardiff outcast's starring return in new role

Check Also

How Emma Finucane was inspired by Amy Hunt and Keely Hodgkinson

Finucane will now be putting together the final touches before this week’s World Championships, which …

Pryder y gallai cynllun 'sy'n newid bywydau' pobl ifanc ddod i ben

Mae cyn-weinidog addysg wedi codi pryderon am ddyfodol rhaglen gyfnewid ryngwladol sydd wedi creu profiadau …

Wales Air Ambulance helicopter rescued from Pembrokeshire holiday park

A Wales Air Ambulance helicopter has been removed from a holiday park by crane after …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime