google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Cymeradwyo cynllun i droi hen ysgol ym Môn yn westy moethus

Mae cynllun i drawsnewid hen ysgol i fod yn westy moethus wedi cael ei gefnogi’n unfrydol gan gynghorwyr ar Ynys Môn.

Dydd Mercher fe wnaeth pwyllgor cynllunio Cyngor Môn drafod y cais i newid Canolfan Penrallt, Llangefni, i fod yn westy 13 ystafell ac yn safle i gynnal priodasau.

Yn ôl yr ymgeisydd Jerry Huppert, byddai’r datblygiad yn creu 14 o swyddi llawn amser a chwe swydd rhan amser.

Ar dan y datblygwyr, dywedodd Owain Evans y byddai’n “westy boutique o safon uchel” ac yn “rhoi bywyd newydd i un o adeiladau mwyaf adnabyddus Llangefni”.

Yn ogystal â chynnig 13 o ystafelloedd, ychwanegodd y byddai’r elfen briodasol yn “cynnig hwb i fusnesau lleol”, ac y byddai blaenoriaeth yn cael ei roi i gontractwyr lleol i gwblhau’r gwaith adeiladu.


BBC News

Advertisements

See also  Champions League highlights: Celtic lost to FC Kairat on penalties

Check Also

Ban foreign nationals from Welsh house-shares, says Reform

Reform called for social housing to be reserved to Welsh people during its Senedd election …

Prestatyn murder investigation finds woman’s body in burning van

A body found in a burning van has been confirmed as a woman, police have …

Security improvements made at Bangor’s Hergest unit since student’s death

Security improvements have been made at a mental health unit in the years since the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime