google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Modd ‘rhoi ffydd mewn cenhedlaeth iau’ – awdur ifanc o’r Bala

Ag yntau bellach yn astudio yn UCL yn Llundain, dywedodd fod rhoi’r gyfrol at ei gilydd “wedi bod yn beth braf”.

“Mae’n beth eithaf hy’ i wneud i roi fy hun allan ‘na i sgwennu o oedran mor ifanc a dwi’n disgwyl i bobl ei ddarllen, disgwyl i bobl werthfawrogi o a’i drin o fel ‘sgwennu byddai unrhyw un yn ei wneud a dim jyst ‘sgwennu fel rhywun yn ei arddegau.

“Am ba bynnag reswm, tydi’r ffaith bo’ fi’n ifanc yn gwneud y pethau ‘ma ddim wir wedi croesi ‘meddwl i.

“Dwi’n meddwl bo’ fi jyst wedi mynd drwy broses eithaf normal gyda fy ‘sgwennu, wedi cychwyn rhywbeth fy hun, wedyn ma’ pobl wedi ei ddarllen o.

“Dwi’n gobeithio bydd pobl eraill yn gallu gweld hwn a gweld nid yn unig bod posib rhoi ffydd mewn cenhedlaeth iau ond bod hi’n bosib torri cwys dy hun a chychwyn rhywbeth o ddim byd ac wedyn bod hynny yn dwyn ffrwyth yn y pendraw.

“Bod posib cychwyn rhywbeth o scratch a bo’ hwnna’n gallu tyfu i fod yn rhywbeth mwy ac yn rhywbeth sy’n mynd i roi lot o gyfleoedd gwerthfawr i ti yn y dyfodol.”

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.

Advertisements




BBC News

Views: 1

See also  'Heb gael gwybod am gwest mam' wedi iddi gael ei lladd gan gi

Check Also

House of the Dragon 3 work was surreal, says Welsh blacksmith

“I read Game of Thrones when I was younger growing up in the mountains,” Aaron …

Strictly star Amy Dowden unveils mini statue of herself in Caerphilly

Florist Nicola Downie dressed her shop window with Dowden’s face as part of the plans. …

DNA test for serial killer Levi Bellfield who claims he killed Lin and Megan Russell

Stone has twice been found guilty of the murders of Lin and Megan and the …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
The technical storage or access that is used exclusively for anonymous statistical purposes.