google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

‘Heb gael gwybod am gwest mam’ wedi iddi gael ei lladd gan gi

Mae merch dynes 83 oed fu farw ar ôl i gi XL Bully cymysg ymosod arni, yn dweud nad oedd hi’n ymwybodol fod cwest ei mam wedi digwydd.

Cafodd Shirley Patrick, oedd â chyflwr dementia, ei brathu sawl tro gan y ci yn ei chartref yng Nghaerffili.

Roedd wedi dioddef anafiadau difrifol i’w phen a’i wyneb a bu farw 17 diwrnod yn ddiweddarach ym mis Rhagfyr 2022.

Dywedodd ei merch, Gail Jones, fod y cwest wedi digwydd “y tu ôl i ddrysau caeëdig” a’i bod hi ond wedi dod i wybod am hynny ar ôl cysylltu â swyddfa’r crwner i holi am y diweddaraf am wrandawiad ei mam.

“Ches i ddim awgrym o gwbl ei fod o am ddigwydd, dwi’n meddwl fod hynny’n gwbl ofnadwy,” meddai.

Dywedodd swyddfa crwner Gwent fod pob hysbysiad ysgrifenedig yr oedd gofyn iddyn nhw eu hanfon i’r teulu a’r wasg ynglŷn â’u bwriad i gynnal y cwest wedi eu hanfon.

Yn ôl Ms Jones, roedd ei nith wedi cael ei rhestru fel perthynas agosaf Ms Patrick mewn camgymeriad gan mai hi oedd wedi cysylltu â’r heddlu yn wreiddiol, ac fe gafodd manylion y cwest eu hanfon iddi hi.

Pan edrychodd nith Ms Jones ar ei hen gyfrif e-bost yr wythnos hon, fe ddaeth o hyd i neges gan swyddfa’r crwner.


Source link

Views: 0

See also  Cymru'n dechrau treialu pêl-droed haf i daclo problemau tywydd

Check Also

Women’s World Cup qualifying: Wales ‘not good enough’ in Montenegro draw – Wilkinson

The draw meant Wales wasted a chance to seize control of Group B1. Czech Republic, …

Galw am newid polisïau cynllunio i ateb anghenion cymunedau

Dyfodol i’r Iaith yn galw ar lywodraeth newydd Cymru i gyflwyno newidiadau mawr i’r drefn …

World's largest scorpion roamed UK 400 million years ago, says expert

Fossil fragments suggest the Praearcturus gigas scorpion had a body about one metre long. BBC …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Lexonads | free ad network | automated website traffic.