google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Merch 5 oed wedi’i hanafu ar reid ffair yn Llandudno

1746618633 fa9ed100 2b22 11f0 a926 032a6ac0e498.jpg

Dywed Chris Williams, cyfarwyddwr Digwyddiadau Cymunedol Llandudno – oedd yn trefnu’r digwyddiad – fod y plentyn yn “sefydlog” yn yr ysbyty, a bod ei rhieni wedi dweud “y gallai wedi bod lot gwaeth”.

Dywedodd y Gwasanaeth Ambiwlans eu bod wedi eu galw i ddigwyddiad ar Stryd Mostyn yn Llandudno ar 3 Mai.

Fe wnaeth Mr Williams rannu gwybodaeth am y digwyddiad mewn datganiad.

Mae’n nodi: “Cafodd ymchwiliad cychwynnol i’r reid ei gynnal ac fe wnaeth y Gweithgor Iechyd a Diogelwch ymweld â’r Llandudno Victorian Extravaganza yn dilyn y digwyddiad, gan ganiatáu i’r reid i barhau i weithredu.

“Er hyn, mewn parch i’r teulu, rydym wedi gofyn i’r reid fod ynghau am weddill y digwyddiad.

“Fe ddaeth ymchwiliad mewnol cychwynnol i’r casgliad mai gwall dynol a achosodd y digwyddiad.”


BBC News

Advertisements

See also  Matthew Rhys yn dychwelyd ar lwyfan i Gymru fel dinesydd UDA

Check Also

Mari Grug: Cyngor ar sut i drafod canser gyda phlant

Mewn cyfweliad ar raglen Beti a’i Phobol ar BBC Radio Cymru dywedodd Mari: “[Wnaeth e] …

Daniel Evans: ‘Y tân yn fy mol’ am yr iaith Gymraeg

Penderfynodd Daniel ail-leoli coedwig Arden o’r ddrama i orllewin Cymru, sy’n ardal sy’n ei ysbrydoli …

‘Aeth chwe chenhedlaeth o fy nheulu i’r ysgol yn Llangyndeyrn, ond dim mwy’

Heddiw mae Huw’n 90 oed ac yn parhau i fyw yn Llangyndeyrn, a’i fab Alun …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime