google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Marwolaeth dyn ddisgynnodd o neuadd breswyl yn ddamwain – cwest

Dywedodd mam Mr Gilbert, Lindsay wrth y cwest ei bod hi’n poeni nad oedd rhai myfyrwyr yn deall peryglon ketamine a bod angen i eraill fod yn ymwybodol o’r hyn ddigwyddodd i’w mab.

Ychwanegodd fod y teulu wedi eu llorio, ond nad oedd problem ganddi weld achos ei mab yn cael ei ddefnyddio i addysgu eraill.

“Dydw i ddim am i’r cyfan gael ei frwsio dan y carped,” meddai.

Dywedodd crwner cynorthwyol Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, Aled Gruffydd, fod Mr Gilbert wedi marw o ganlyniad i sawl anaf wedi iddo ddisgyn.

Roedd Mr Gilbert wedi drysu ac mewn panig o ganlyniad i’r cyffuriau a’r alcohol oedd yn ei system, ond yr anafiadau wnaeth achosi ei farwolaeth, meddai.

Yn ôl Mr Gruffydd, doedd Matthew Gilbert ddim yn ymwybodol o’r ffaith ei fod ar lawr mor uchel pan ddisgynnodd o’r adeilad, ac o ganlyniad, roedd ei farwolaeth yn ddamwain.


BBC News

Advertisements

See also  Welsh environment law aims to protect rivers and nature

Check Also

Boy, 6, who died in Llanfairfechan crash named as Harrison Jones

The GoFundMe fund-raiser was launched by Kate Jones to help cover Harrison’s funeral and memorial …

Teuluoedd cleifion Alzheimer’s: ‘Anodd gwybod pa gymorth sydd ar gael’

Ar ôl gorfod ffeindio’i ffordd ei hun drwy’r system, mae Megan bellach yn awyddus i …

Plaid Cymru yn anelu at gwmni Cymreig newydd ar restr FTSE 100 o fewn degawd

Mae Plaid Cymru yn diffinio cwmnïau twf uchel fel rhai sy’n “profi cynnydd cyflym mewn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime