google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Lluniau: Cymeriadau Aberystwyth – BBC Cymru Fyw

1a5940a0 13c4 11f0 9229 09f6ea2d5ae2.jpg

Advertisements

Ymhob tref mae ‘na gymeriadau sy’n creu naws arbennig i’r lle ac mae arddangosfa newydd yn dathlu’r rhai sy’n gwneud Aberystwyth yn lle unigryw.

Y ffotograffydd Bruce Cardwell sydd wedi bod yn cofnodi rhai o drigolion y dref prifysgol a glan môr wnaeth o ymgartrefi ynddi ar ôl gadael gogledd Iwerddon nôl yn 1981.

Dywedodd ei fod wedi mynd o gwmpas y dref yn sgwrsio gyda rhai o’r trigolion er mwyn iddyn nhw fod yn gyfforddus o flaen y lens.

Meddai: “Dwi’n cadw pethau yn anffurfiol heb lot o dechnoleg, ac efo camera eithaf syml a lens bychan i gadw nhw’n relaxed. Dwi’n cadw pethau’n syml hefyd er mwyn canolbwyntio ar y cymeriad o’m mlaen i.

“Dwi’n people person, yn hoffi cyfarfod pobl a siarad efo nhw ers dwi’n ifanc a dwi’n meddwl bod y teimlad yn dod drosodd yn y lluniau.”

Fe fydd ffotograffau arddangosfa Byd Bach Aber i’w gweld o 4 Ebrill ymlaen mewn sawl lleoliad yn y dref gan gynnwys Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Canolfan y Celfyddydau Aberystwyth ac Amgueddfa Ceredigion, a hefyd Ysbyty Bronglais, a nifer o siopau a busnesau ar hyd a lled y dref dros yr haf.


BBC News

Views: 0

See also  CrossFit helps Pembrokeshire woman curb Parkinson's symptoms

Check Also

Has the fear of being filmed changed clubbing for Gen Z?

Student Freya Price will be on a night out with her friends, but she cannot …

Ci o Ben Llŷn wedi’i ganfod yn Lloegr ar ôl ‘tair wythnos o boeni’

Mae teulu o Ben Llŷn yn ddiolchgar i’r cyfryngau cymdeithasol am eu help yn dod …

Scotland U20 28-21 Wales U20: Scots claim fifth at Junior World Championship

Scotland U20: Rory McHaffie (Edinburgh); Daniel Kelly (Edinburgh), Henry Kesterton (Edinburgh), Alex Bryden (Glasgow), Nairn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
This product has multiple variants.