google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Thursday , September 17 2026

Lauren Price yn bencampwraig bocsio’r byd

Roedd yna fuddugoliaeth hanesyddol yn y byd bocsio i Gymru nos Sadwrn wrth i Lauren Price o Ystrad Mynach ddod yn bencampwraig byd – hi yw’r ferch gyntaf o Gymru i ennill pencampwriaeth byd ym maes bocsio a’r 14ydd Cymro i gyflawni’r gamp.

Fe drechodd hi ei gwrthwynebydd Jessica McCaskill o Chicago ymhob rownd ond wedi i’r ddwy daro eu pennau yn erbyn ei gilydd yn ddamweiniol penderfynodd y beirniaid nad oedd hi’n ddiogel i’r Americanes barhau.

Hon oedd seithfed gornest broffesiynol Lauren Price – 29 oed – a hynny o flaen torf yng Nghaerdydd.

A hithau bellach yn bencampwraig pwysau welter fe allai hi fod yn wynebu pencampwyr fel Natasha Jonas, Sandy Ryan a Mikaela Mayer yn y dyfodol.

Roedd Lauren Price wedi torri un record eisoes – yn Tokyo yn 2020 fe greodd hi hanes wrth iddi fod y cystadleuydd cyntaf o Gymru i ennill medal aur bocsio (69-75kg) yn y Gemau Olympaidd.


Source link

See also  'Teen inhaled laughing gas and drove over woman causing catastrophic injuries'

Check Also

County Championship: Glamorgan on top against Surrey

Rothesay County Championship, Division One, Kia Oval (day two) Glamorgan 132 & 339-5: Tribe 142*, …

PC ‘did nothing wrong’ after putting Porthmadog suspect in headlock

A police officer who repeatedly punched a man he was arresting has told a misconduct …

Powys: Ystyried y newid mwyaf i wasanaethau iechyd ers cenhedlaeth

Mae newidiadau hefyd yn cael eu cynnig i unedau mân anafiadau a gofal brys yn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime