google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Josh Navidi: ‘Mam yn prowd iawn mod i’n siarad Cymraeg’

Mae Josh wedi cynrychioli ei wlad 33 gwaith ar y cae rygbi ond heriau o fath gwahanol mae e’n wynebu yn y rhaglen, gan gynnwys gwerthu car mewn garej ym Methel, troelli recordiau, a chynnal taith o amgylch Stadiwm y Principality.

Ers ymddeol o’r cae chwarae, mae Josh wedi troi ei law at sylwebu, DJio a gwerthu ceir ac mae’n berchen ar garej yn Y Barri erbyn hyn felly roedd yr heriau yn ei siwtio i’r dim.

Mae Josh yn cydnabod fod nifer o chwaraewyr proffesiynol yn gweld hi’n anodd pan yn ymddeol: “Dwi wedi bod yn lwcus achos oedd gen i’r stwff ceir yn mynd ymlaen.

“Mae lot o fois yn stryglo yn dod mas achos ti wedi gwneud e ers bod ti’n 16 – ti ddim yn cael dy spoonfed ond ti’n cael gwybod ble i fod a pryd. Mae popeth yn scheduled i ti ond nawr fi sy’n rheoli fy schedule.

“Gyda rygbi ti’n dibynnu ar rywun arall i neud popeth i ti – ti’n troi fyny, rhoi dy fŵts ymlaen a bant â ti. Mae’n gallu bod yn newid anodd.

“Dwi wedi cael diddordebau i ffwrdd o’r cae. Mae’r WRU nawr yn helpu pobl i gael rhywbeth – mynd i coleg a gwneud cwrs adeiladu le ti’n dysgu gwaith plymio, plastro a trydanol. Ti’n cael rhywbeth mas ohono.

“Dechreuais i DJio achos o’n i’n mynd adref a chwarae Call of Duty am chwe awr ar y Playstation – o’n i ddim yn cael unrhyw beth o hynny felly dechreuais i fynd ar fy DJ decks a dyna lle mae’n dod o.”


Source link

Advertisements

See also  Heddlu'n dod o hyd i gorff wrth chwilio am bensiynwr coll

Check Also

Boy, 6, who died in Llanfairfechan crash named as Harrison Jones

The GoFundMe fund-raiser was launched by Kate Jones to help cover Harrison’s funeral and memorial …

Teuluoedd cleifion Alzheimer’s: ‘Anodd gwybod pa gymorth sydd ar gael’

Ar ôl gorfod ffeindio’i ffordd ei hun drwy’r system, mae Megan bellach yn awyddus i …

Plaid Cymru yn anelu at gwmni Cymreig newydd ar restr FTSE 100 o fewn degawd

Mae Plaid Cymru yn diffinio cwmnïau twf uchel fel rhai sy’n “profi cynnydd cyflym mewn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime