google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Joe Cordina yn pledio’n ddieuog i ddau gyhuddiad o ymosod

Mae’r cyn-bencampwr bocsio Joe Cordina wedi pledio’n ddieuog yn Llys Ynadon Caerdydd i ddau gyhuddiad o ymosod.

Mae Mr Cordina, 34, a dyn arall yn wynebu cyhuddiadau o ymosod yn dilyn digwyddiad honedig tu fas i orsaf betrol yn ardal Pentwyn, Caerdydd ym mis Chwefror 2025.

Wnaeth ei gyd-ddiffynnydd, Jamie O’Brien, ddim cyflwyno ple.

Mae’r llys eisoes wedi clywed fod y cyhuddiadau’n ymwneud â digwyddiad rhwng y ddau.

Dywedodd cyfreithiwr Mr Cordina wrth y gwrandawiad byr fod yr ail gyhuddiad yn erbyn Mr Cordina yn rhan o’r un digwyddiad.

Pwysleisiodd yr angen am ddyddiad ar gyfer yr achos gan ddweud fod yr oedi yn cael “effaith ddinistriol ar yr hyn mae Mr Cordina yn ei wneud orau, sef bocsio”.

Ddechrau’r mis fe gafodd gornest yn yr Unol Daleithiau ei chanlso ar ôl i Mr Cordina fethu â chael fisa i deithio yno.

Mae disgwyl i’r achos gael ei gynnal ar 13 Hydref.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.




BBC News

Advertisements

See also  Y menopos ac ADHD: 'O'n i'n teimlo mor wan a gwag'

Check Also

Kemi Badenoch leaves door open to Tory support for Plaid government budget

Conservative leader Kemi Badenoch has not ruled out the Welsh Tories helping Plaid Cymru ministers …

World Rally Championship: Elfyn Evans makes steady start to title bid in Sardinia

Eflyn Evans struck a blow against his nearest title rival, but conceded time to another, …

Prince of Wales tells villagers ‘holistic’ approach is needed on flooding

On Thursday, the royal spoke to villagers Rod and Helen Wyatt at their garden gate …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime