google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Ian Watkins wedi marw ar ôl cael ei drywanu yn ei wddf – cwest

Advertisements

Yn ystod y gwrandawiad byr, dywedodd y Crwner, Oliver Longstaff, fod Ian David Karslake Watkins wedi’i ddatgan yn farw yng ngharchar Gorllewin Swydd Efrog ar 11 Hydref, gan ddoctor.

Cafodd ei adnabod yn ffurfiol gan swyddog yn y carchar.

Dywedodd Mr Longstaff y cafodd parafeddygon eu galw i’r carchar, lle’r oedd Watkins yn garcharor, “yn dilyn adroddiad ei fod wedi cael ei drywanu yn ei wddf”.

Rhoddodd adroddiad post-mortem achos marwolaeth o doriad i’r gwddf, meddai’r Crwner.

Dywedodd fod carcharorion eraill wedi cael eu cyhuddo o lofruddiaeth ac y byddai ymchwiliad y crwner yn cael ei ohirio “tra’n aros am ganlyniad y broses cyfiawnder troseddol”.

“Os oes angen ailddechrau cwest i’r farwolaeth ar ôl i’r broses droseddol honno ddod i ben, mae hynny’n destun dyfalu llwyr a bydd rhaid aros i weld.”


BBC News

Views: 2

See also  Ian Harvey: Glamorgan appoint ex-Australia all-rounder as assistant coach

Check Also

Cyhoeddi rhagor o brif artistiaid Eisteddfod y Garreg Las

Mae rhagor o artistiaid wedi eu cyhoeddi ar gyfer Eisteddfod y Garreg Las eleni. BBC …

Aaron Ramsey: Mikel Arteta an inspiration as ex-Wales and Arsenal star eyes management

Ramsey has been part of Craig Bellamy’s Wales staff in an unofficial capacity in recent …

‘Hwb i’r economi a’r Gymraeg’ – beth fydd gwir waddol Eisteddfod yr Urdd Môn 2026?

Wrth i’r pebyll gael eu tynnu lawr ac i faes Eisteddfod yr Urdd Ynys Môn …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
For me, coding and music production are two sides of the same coin : it’s all about creating something impactful from scratch.