google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html
Saturday , September 5 2026

Hunangofiant Iola Ynyr yn ennill Llyfr y Flwyddyn 2025

0a6b0580 631e 11f0 83d2 4f671b8c1523.jpg

Advertisements

Y beirniaid eleni oedd Menna Elfyn, Gwenllian Ellis, Miriam Elin Jones a Hammad Rind.

Fe ddywedon nhw bod cyfrol Iola Ynyr yn “greadigol, grefftus” a bod gan yr awdures “feistrolaeth dros yr iaith ac mae’r dweud yn ysgytwol”.

Ychwanegodd Gwenllian Ellis fod Iola yn “dinoethi ei hun yn llwyr wrth drafod ei dibyniaeth alcohol, ond mae o’n daith at wellhad ac yn neges i ni gyd, dim ots faint oed ydan ni, i weld gwerth yn ein hunain”.

“Er fod ‘na dywyllwch, er fod ‘na dristwch, ma’ ‘na dynerwch a chariad yn bodoli rhwng y cloria’,” meddai.

Fe gafodd gwobr Llyfr y Flwyddyn ei chreu yn y 1960au, ac mae Llenyddiaeth Cymru wedi bod yn ei threfnu ers 2004.

Dywedodd Cyfarwyddwr Artistig Llenyddiaeth Cymru, Leusa Llewelyn ei bod hi’n “fraint ac anrhydedd cael cyd-ddathlu” yn y seremoni yng Nghaerdydd.

Aeth ymlaen i longyfarch Iola am ei “chyfrol ddirdynnol, gonest a phwerus”.

Mae Manon Steffan Ros, Caryl Lewis a Llwyd Owen i gyd ymhlith enillwyr blaenorol Llyfr y Flwyddyn.


BBC News

See also  Ceredigion: Meat vending machine plans submitted to council

Check Also

Oedi llawdriniaethau newid rhywedd er mwyn cynnal ‘adolygiad brys’

Mae atgyfeiriadau ar gyfer llawdriniaethau cadarnhau rhywedd mewn clinig wedi cael eu hoedi er mwyn …

Rob Brydon ‘regrets’ turning down Dolly Parton interview

The Welsh actor and comedian’s debut children’s book – The Cat in The Cupboard – …

Wrexham news: More accomplished Red Dragons need ‘A game’ at Swansea

Swansea goalkeeper Lawrence Vigouroux played his part in an eye-catching team move that was rounded …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime