google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Heriau yswiriant yn wynebu nifer wedi llifogydd Storm Bert

Mae nifer o fusnesau ardal Pontypridd yn wynebu cyfnod heriol ar ôl difrod storm Bert, wedi i nifer ohonyn nhw fethu â chael yswiriant i’w hatal rhag difrod y llifogydd.

“I weld y fath difrod yma eto o fewn pedair blynedd, rydyn ni gyd mor drist.”

Cyrhaeddodd Eleri Jackson, 20, ei chlwb rygbi, Newport High School Old Boys RFC, yn sgil Storm Bert i ddarganfod y safle dan ddŵr unwaith eto.

Fe wnaeth y clwb methu â chael yswiriant i ofalu am lifogydd ar ôl y difrod gafodd ei achosi gan Storm Dennis yn Chwefror 2020.

Dywedodd Eleri, sy’n chwarae dros dîm menywod y clwb, ei bod yn gorfod dibynnu ar gyfeillgarwch eraill y tro hwn i dalu am y difrod gwerth miloedd o bunnoedd.

“Mae gweld wynebau’r hyfforddwyr, staff a chwaraewyr – y siomedigaeth ar ôl i hyn ddigwydd eto – mae’n drist iawn. Mae sawl oergell a’r trydan wedi’u heffeithio a’r holl ddodrefn wedi’u chwalu,” meddai Eleri.


Source link

See also  Tomi Lewis: Scarlets wing faces long spell out with Achilles injury

Check Also

Cardiff man to be released from prison, 21 years after phone robbery

Introduced in 2005, IPPs were established to keep serious offenders, who were perceived to be …

First ministers of Wales, Scotland and Northern Ireland to meet in Cardiff

The first ministers of Wales, Scotland and Northern Ireland will meet in Cardiff on Monday …

No bin collections prompt demand for Flintshire council tax rebate

A resident who has not had a bin collection for six months since moving on …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime