google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Heddlu nid athrawon ddylai chwilio am arfau – athrawes gafodd ei thrywanu

Advertisements

Cafwyd merch 14 oed yn euog o geisio llofruddio Ms Hopkin, athrawes arall, Fiona Elias a disgybl mewn digwyddiad yn Ysgol Dyffryn Aman yn Sir Gaerfyrddin yn Ebrill 2024.

Cafodd y ferch ddedfryd 15 mlynedd llynedd.

Dywedodd Ms Hopkin, sydd wedi dweud na fydd hi byth yn dychwelyd i’r ystafell ddosbarth, bod yr achosion mwyaf difrifol o drais yn tarddu o ragor o ymddygiad gwael ar lefel isel yn yr ystafell ddosbarth.

Dywedodd bod cynnwys ar y cyfryngau cymdeithasol yn cyfrannu at y broblem.

“Mae’n ymwneud ag ymyrraeth gynnar. Mae’n ymwneud â rhoi llawer mwy o arian, cyllid ac adnoddau i gymorth cynnar”, meddai.

Ychwanegodd bod ymosodiadau yn gallu digwydd mewn unrhyw fath o ardal, gan gynnwys ardaloedd gwledig fel Rhydaman.

“Rydych chi yn symud mlaen ychydig, ond dyw e ddim yn brofiad rydych chi’n dianc rhagddo.

“Mae’n rhaid ei atal e a dyw e ddim yn fater o atal disgyblion rhag dod i mewn gydag arfau, er bod hynny’n rhan ohono, ond mae’n ymwneud ag ymdrin â holl faterion cymdeithas Cymru mewn ysgolion ac mewn cymunedau.”

Dywedodd fod pwysau cyllidebol ar ysgolion a gwasanaethau eraill yn “ffactor enfawr”.

“Dydyn ni ddim yn cael y gefnogaeth ariannol mewn ysgolion, nac o fewn asiantaethau allanol fel gwasanaethau ieuenctid, gwasanaethau iechyd meddwl, yr holl wasanaethau cefnogol hynny… seicoleg addysg, mae’r cyfan yn cael ei erydu.”


BBC News

Views: 2

See also  Streic y Glowyr: 'Drwg deimlad yn parhau wedi dros 40 mlynedd'

Check Also

Commonwealth Games 2026: Identical Roper twins both win bronze medals for Wales

The identical Roper twins created a slice of Wales team history as the gymnasts both …

Canfod corff caiaciwr coll a’r chwilio’n parhau am ail ddyn

Mae corff un o ddau gaiaciwr aeth ar goll ym Mhwllheli chwe diwrnod yn ôl …

Wrexham transfer news: Crystal Palace’s Danny Imray set for Red Dragons move

Wrexham boss Phil Parkinson has been determined to bolster his wing-back options following Issa Kabore’s …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime
Ksb men’s hiking boots.