google-site-verification: googlec7193c3de77668c9.html

Hanes stormydd mawr Cymru – BBC Cymru Fyw

Advertisements

Mae dyddiaduron personol yn aml yn cynnig cipolwg gwerthfawr ar batrymau tywydd yn y gorffennol. Cofnododd Walter Powell, bonheddwr o Landeilo Gresynni yn Sir Fynwy, iddo weld y llifogydd mwyaf a welodd erioed ym mis Awst 1648!

Cyfeiriodd at wyntoedd cryfion a falodd y coed ffrwythau a llif dŵr a oedd yn ddigon cryf i chwalu pontydd.

I Jane Griffith – gwraig fferm o Lanbedr, Sir Feirionnydd – a fu’n cadw dyddiadur dros gyfnod o 53 mlynedd rhwng 1874 a 1929 – roedd y tywydd garw yn destun amlwg yn ei hysgrifau.

Mae Jane yn dechrau pob diwrnod bron trwy gyfeirio’n gryno at y tywydd: ‘Gwlaw’, ‘Rhew’, ‘Cawodydd’, a ‘Gwynt oer iawn’.

Trawyd gogledd Cymru gan lifogydd sylweddol ar 20 Mehefin 1781. Yn un o’i lyfrau teithio mae’r naturiaethwr o Sir y Fflint, Thomas Pennant, yn cyfeirio at Lanuwchllyn ger Y Bala fel ardal a gafodd ei tharo’n arbennig o wael.

Yn dilyn glaw trwm roedd Afon Twrch a Llyn Tegid wedi gorlifo ac roedd llawer o anifeiliaid fferm wedi boddi. Mae Pennant yn datgelu bod yr Afon Clwyd yn Rhuthun wedi codi i’r lefel uchaf o fewn cof byw yn ystod y cyfnod yma hefyd.

Ar 25-26 Tachwedd 1859 trawyd arfordir ynysoedd Prydain gan un o stormydd garwaf y ganrif. Mewn deuddydd, lladdwyd 800 o bobl gyda 133 o longau yn cael eu dryllio.


BBC News

Views: 0

See also  Doubts over £1bn plan to electrify north Wales mainline

Check Also

Labour victory in additional learning vote in Senedd as Plaid lose again

The Plaid Cymru Welsh government has lost another vote in the Senedd after a majority …

Gyrrwr beic trydan yn osgoi carchar ar ôl taro dyn arall yn anymwybodol

Mae dyn a blediodd yn euog i yrru’n beryglus ar ôl taro cerddwr gyda beic …

Newport man avoids jail after electric motorbike hit-and-run

A man who knocked a pedestrian unconscious with his electric motorbike and fled the scene …

Leave a Reply

Available for Amazon Prime